Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 1 Rhagfyr 2023
Mae ysgol uwchradd wedi gweld cynnydd rhyfeddol mewn cyfraddau presenoldeb, diolch i’r gefnogaeth y mae’n cynnig i ddisgyblion sy’n cael trafferth mynd i’r ysgol.
Mae cyfraddau presenoldeb yn Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Alban, ym Mhont-y-pŵl, wedi cynyddu o 90 y cant yn 2021/22 i ychydig dros 94 y cant yn Nhachwedd 2023, sydd bump y cant uwchben y cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer ysgolion uwchradd.
Mewn adroddiad diweddar gan Estyn, cafodd yr ysgol glod am y gefnogaeth y mae’n rhoi i ddisgyblion y mae eu habsenoldeb yn cael ei ystyried yn Ddiffyg Presenoldeb yn yr Ysgol ar Sail Emosiynol, sy’n golygu eu bod yn mynd yn bryderus neu’n ofidus wrth feddwl am fynd i’r ysgol.
Mae’r cymorth sy’n cael ei gynnig yn seiliedig ar anghenion y disgybl unigol a gall amrywio o sesiwn galw heibio syml i ymweliadau â’r cartref ac yn y gymuned.
Mae’n ddull sydd wedi helpu un disgybl ym Mlwyddyn 9 i gynyddu ei phresenoldeb o 21 y cant yn Hydref 2022 i 84 y cant yn Nhachwedd 2023.
Mae un o’r athrawon, Gemma Marsh, wedi gweithio’n agos gyda’r disgybl, ochr yn ochr â thimau lles ac Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol i’w helpu i integreiddio eto yn amgylchedd yr ysgol.
Dywedodd y disgybl: “Mae Gemma Marsh wedi bod yn wych wrth fy helpu i ddod yn ôl i’r ysgol, mae hi’n gwrando arnaf i ac yn fy helpu gyda phethau sy’n anodd i fi yn yr ysgol.”
Dywedodd Pennaeth yr ysgol, Stephen Lord: “Rydym yn falch iawn o gynnydd a llwyddiannau ein disgyblion, yn enwedig y rheiny sydd wedi wynebu heriau wrth ddod i’r ysgol yn rheolaidd.
“Rydym yn credu fod pob disgybl yn haeddu’r cyfle i ddysgu a ffynnu mewn amgylchedd diogel a chefnogol, a bod presenoldeb yn allweddol i’w llwyddiant academaidd, yn ogystal i wella lles.
“Rydym wedi rhoi llawer o amser ac adnoddau i ddatblygu a gweithredu systemau cefnogaeth effeithiol ac rydym wrth ein bodd o weld y canlyniadau. Byddwn yn parhau i fonitro a gwerthuso ein strategaethau presenoldeb, a gweithio gyda’n disgyblion, rheini, staff a phartneriaid i sicrhau ein bod ni’n parhau i roi’r addysg a chefnogaeth orau posibl i’n disgyblion.”
Yn ôl dadansoddiad yr ysgol, mae disgyblion â chyfraddau presenoldeb o tua 95 y cant yn llwyddo i gael graddau B ac uwch ar gyfartaledd mewn TGAU, mae’r rheiny â chyfradd o 90 y cant yn cael C ar gyfartaledd a’r rheiny â 80 y cant yn cael graddau E a F ac uwch.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg yng Nghyngor Torfaen “Rwy’n llawn edmygedd o’r cynnydd mewn cyfraddau presenoldeb yn Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Alban sy’n dangos yn glir ymrwymiad ac ymroddiad staff a disgyblion i oresgyn yr heriau.
“Mae cefnogaeth yr ysgol i ddisgyblion â phryder neu ofid yn gyson â chamau cynllun sirol y cyngor i hyrwyddo lles a chydnerthedd yn ein plant a’n pobl ifanc, a sicrhau ei bod yn cael addysg a chefnogaeth o ansawdd uchel."