Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 1 Rhagfyr 2023
O’r flwyddyn nesaf, bydd gofyn bod pob gweithiwr proffesiynol sy’n cynnig gwasanaethau celf y corff ac aciwbigo yng Nghymru yn cael trwydded fandadol i weithredu.
Mae hyn yn cynnwys artistiaid tatŵio, gweithwyr sy’n tyllu’r corff, artistiaid colur lled-barhaol, aciwbigwyr ac electrolegwyr.
Er mwyn helpu ymarferwyr i gwrdd â gofynion trwyddedu newydd Llywodraeth Cymru, mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned Torfaen yn cynnig Dyfarniad Lefel 2 Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd mewn Atal a Rheoli Haint.
Crëwyd y cwrs hwn i unrhyw un sy’n rhoi triniaethau arbenigol sy’n golygu torri trwy’r croen a pherygl o haint.
Bydd y cwrs yn cynnwys y sgiliau a’r wybodaeth hanfodol y mae eu hangen i atal heintiau a’u rheoli, er enghraifft arferion hylendid, dulliau sterileiddio, gwaredu ar wastraff, cyfarpar diogelu personol a chyngor ar ofal ar ôl y driniaeth.
Wedi cwblhau’r cwrs, bydd ymarferwyr yn gallu dangos eu cymhwysedd a’u proffesiynoldeb i’w cleientiaid a’u rheoleiddwyr.
Fe fu Robbie Taylor, sy’n 42 oed ac yn berchen ar Evermore Tattoo Collective yn Nhrefddyn, yn cymryd rhan yn nghynllun peilot Llywodraeth Cymru ar gyfer y cymhwyster.
Meddai: “Mae hyfforddiant i reoli haint yn arbennig o bwysig oherwydd y wybodaeth a’r mewnwelediad rydych chi’n eu cael na fyddai’n cael eu haddysgu ar unrhyw gwrs hyfforddiant arall.
“Rydw i wedi bod yn tatŵio ers amser maith ac mae yna ddywediad na fyddwch chi fyth yn dysgu popeth ym maes tatŵio. Mae’r cwrs hwn yn amlygu’r datganiad hwnnw. Rydw i wedi dysgu am gyflyrau’r croen a fyddai’n effeithio ar y broses datŵio, ac wedi dysgu am arferion diheintio cywir ac anghywir ac roedd yn addysgiadol iawn.
“Trwy sicrhau bod pob un yn y diwydiant yn dilyn yr un gweithdrefnau gallwn sicrhau bod cyn lleied o haint â phosibl a bod safonau’n uchel. Gall cwsmeriaid deimlo’n ddiogel, gan wybod ein bod ni i gyd wedi’n hyfforddi i’r un safonau.”
Meddai Jo Gauden, Aelod Gweithredol dros Yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: “Bydd y cymhwyster hwn yn gam pwysig i helpu i sicrhau iechyd a diogelwch y bobl sy’n cael y triniaethau hyn a’r ymarferwyr eu hunain. Rydw i wrth fy modd fod ymarferwyr lleol yn mynd i allu cael mynediad at yr hyfforddiant hwn yn lleol, trwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, yn eu cymunedau lleol, i sicrhau eu bod yn cydymffurfio pan ddaw’r newidiadau i’r Bil Iechyd y Cyhoedd i rym.”
Mae’r cwrs yn gwrs ar-lein, trwy astudiaeth hunangyfeiriedig ac yn costio £99 yr un.
Wedi cwblhau’r cwrs, bydd gofyn i ymgeiswyr fynd i sefyll arholiad yn un o’n 3 Chanolfan Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Nhorfaen.
Efallai y bydd modd cael nawdd ar gyfer cost y cwrs trwy raglenni cyflogadwyedd Torfaen yn Gweithio y Cyngor.
I drefnu’ch lle, cysylltwch â thîm Dysgu Oedolion yn y Gymuned ar 01633 647647 neu anfonwch neges e-bost i course.enq@torfaen.gov.uk.