Llwyddiant TGAU i oedolion

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 25 Awst 2023
Lee Stewart cropped

Nid dim ond disgyblion ysgol oedd yn dathlu llwyddiant TGAU'r wythnos yma - casglodd dros 50 o ddysgwyr o blith oedolion eu canlyniadau hefyd.

Eleni, safodd 53 o ddysgwyr gyda Dysgu Cymunedol i Oedolion Cyngor Torfaen arholiadau TGAU a llwyddodd 100 y cant i gael graddau A i C mewn Saesneg a chafodd 68 y cant A i C mewn Mathemateg.

Ariannwyd pob dysgwr TGAU mathemateg trwy raglen newydd Llywodraeth y DU, Lluosi, oedd yN golygu eu bod yn gallu dilyn y cwrs am ddim.

Cafodd Megan Evans, o’r Dafarn Newydd, A mewn Saesneg a B mewn mathemateg.

Dywedodd: “Dyma fy wythfed tro ac, o’r diwedd, rydw i wedi cael y graddau rwy eu heisiau. O’r diwedd rwy’n mynd i astudio TAR ym Mhrifysgol De Cymru a dod yn athrawes ysgol gynradd.

"Buaswn i’n dweud wrth ddysgwyr eraill – pan fyddwch yn credu eich bod wedi adolygu, adolygwch fwy.”

Dywedodd Louise Jelley, o Sebastopol: “Ymunais â TGAU mathemateg er mwyn rhoi hwb i fy hyder fy hun.  Rwy’n credu ei fod yn gymhwyster y mae pawb ei eisiau mewn gwirionedd. Ar ôl llawer o waith caled, cefais radd B ac rydw i ar ben fy nigon.”

Dywedodd Lee Stewart, o Lanyrafon: “Cefais i radd B, alla’ i ddim credu’r peth! Os ydych chi’n meddwl am wneud, gwnewch hynny, mae’r sgiliau rydw i wedi eu dysgu wedi fy helpu cymaint.”

Dywedodd yr Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio, y Cynghorydd Joanne Gauden: “Mae canlyniadau eleni’n dyst i waith caled ac ymroddiad ein dysgwyr a’n tiwtoriaid yn y Gwasanaeth Dysgu Cymunedol i Oedolion. Mae cynnig cyfle i drigolion wella’u sgiliau a’u cymwysterau yn un o’r blaenoriaethau yn ein Cynllun Sirol.  

"Rydym mor falch o’n dysgwyr sy’n dathlu eu llwyddiant heddiw.  Nid yn unig mae hyn yn dangos eu hymrwymiad at lwyddo, ond mae’n adlewyrchu hefyd ansawdd uchel yr addysgu a’r dysgu sy’n digwydd yn y gwasanaeth DCiO.”

Os oes gyda chi ddiddordeb mewn cwblhau TGAU Saesneg neu Fathemateg eleni – neu ddosbarthiadau paratoi, cysylltwch â’r tîm DCiO ar 01633 647647 neu e-bostiwch power.station@torfaen.gov.uk.

Mae cyrsiau Dysgu Cymunedol i Oedolion Torfaen wedi eu cynllunio i gyd-fynd â bywydau prysur dysgwyr sy’n oedolion.  Dysgwch fwy trwy lawrlwytho’r llyfryn.  

Darllenwch fwy am amcanion lles Cynllun Sirol y cyngor.

Llun: Lee Stewart

Diwygiwyd Diwethaf: 25/08/2023 Nôl i’r Brig