Wedi ei bostio ar Dydd Iau 24 Awst 2023
Lluniau o ddisgyblion Ysgol Uwchradd Cwmbrân
Casglodd miloedd o ddisgyblion Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11 ganlyniadau eu harholiadau heddiw.
Casglodd disgyblion mewn chwech o ysgolion uwchradd yn y fwrdeistref ganlyniadau TGAU mewn pynciau fel mathemateg, Saesneg, gwyddoniaeth, dyniaethau ac ieithoedd, yn ogystal â Her Sgiliau, y Fagloriaeth Gymreig gynt.
Yn eu plith roedd Gwenno Wood, o Ysgol Gymraeg Gwynllyw, a gafodd 15 A*, Lewis Merchant, o Ysgol Gorllewin Mynwy, a gafodd 12 A* a Tobias Dallimore, o Ysgol Uwchradd Cwmbrân, a gafodd 11 A*.
Dilynwch ni trwy Facebook, Twitter ac Instagram i weld ymateb rhai disgyblion yn gynharach heddiw.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Ysgolion: "Mae’r rhain yn ganlyniadau gwych eto i ddisgyblion yn Nhorfaen ar ôl y canlyniadau Lefel A’r wythnos ddiwethaf, yn enwedig gyda’r newidiadau a gafodd eu gwneud i arholiadau yn ystod y pandemig.
"Un o flaenoriaethau’n Cynllun Sirol yw codi cyrhaeddiad addysgol, gan helpu pobl ifanc ac oedolion i gael y cymwysterau a’r sgiliau y mae eu hangen i fyw bywydau cadarnhaol."
Dywedodd Matthew Sims, pennaeth Ysgol Uwchradd Cwmbrân: "Mae disgyblion wedi perfformio’n eithriadol o dda mewn nifer o bynciau gyda pherfformiadau rhagorol.
"Rydym yn hynod o falch o’n disgyblion i gyd ac mae hyn yn adlewyrchu eu gwaith caled, eu hymrwymiad a’u hymroddiad."
Dywedodd Mark Jones, pennaeth Ysgol Gymraeg Gwynllyw: "Llongyfarchiadau i’n disgyblion i gyd am eu gwaith caled ac am gael canlyniadau y maen nhw’n eu haeddu.
Diolch yn fawr i’n staff, disgyblion a rhieni am eu cefnogaeth barhaus i’r ysgol ac am gefnogi addysg Gymraeg.
"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu nifer sylweddol o’n disgyblion yn ôl i barhau â’u dysgu yn y chweched dosbarth.”
Ychwanegodd pennaeth Ysgol Gorllewin Mynwy, Emma Jordan: "Rydym yn falch iawn o fod yn dathlu rhai o ganlyniadau gorau Gorllewin Mynwy erioed gyda’n disgyblion anhygoel.
"Mae’r dangosyddion i gyd bron wedi codi o gymharu â llynedd ac rydym yn arbennig o falch gyda gwelliannau sylweddol yng nghyrhaeddiad ein disgyblion dan anfantais. Da iawn i’n disgyblion a’n staff!"
Ledled Cymru, roedd canlyniadau TGAU i lawr ar y cyfan o gymharu â llynedd, ond nid o gymharu â chanlyniadau 2019 cyn y pandemig.
Dysgwch sut mae Cyngor Torfaen yn gweithio i wella deilliannau i bobl ifanc yn y Cynllun Sirol.