Wedi ei bostio ar Dydd Iau 10 Awst 2023
Bydd swm o bron i hanner miliwn o bunnau’n cael ei wario ar ddau brosiect allweddol i wella teithio llesol yn y fwrdeistref.
Mae Cyngor Torfaen wedi sicrhau £420,000 o gyllid teithiol llesol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynllun rhwydwaith Teithiol Llesol Cae Derw. Bydd y prosiect yn cynnwys 400 metr o lwybr cerdded a beicio newydd o amgylch dwy ochr arall y cae hamdden. Bydd hyn yn ategu at y llwybr cerdded a beicio cyd-ddefnydd newydd sy’n 180 metr o hyd ac yn 3m o led, a grëwyd o Court Farm Road yng Nghae Derw i’r ysgol, ar hyd ymyl y cae hamdden.
Mae’r cyngor hefyd wedi sicrhau £50,000 o nawdd Llwybrau Mwy Diogel mewn Cymunedau er mwyn asesu heolydd a strydoedd y tu allan i bob un o ysgolion Torfaen. Bydd y gwaith hwn yn anelu at nodi cyfleoedd i wella diogelwch ar y ffyrdd, er enghraifft cyfyngu ar fynediad i gerbydau adeg amserau dechrau a gorffen ysgolion.
Cafwyd nawdd ychwanegol hefyd ar gyfer prosiectau llai fel cyrbau isel, raciau beiciau a meinciau newydd, ac adnabod prosiectau ar gyfer y dyfodol a’u dylunio.
Daw’r newyddion wrth i’r gwaith a wnaed y llynedd i ledaenu 600 metr o lwybr ar hyd Edlogan Way yng Nghwmbrân gael ei gwblhau, fel ei bod yn haws i gerddwyr a beicwyr ddefnyddio’r llwybr hwn.
Roedd y gwaith yn cynnwys rhoi wyneb newydd ar y llwybr, gosod croesfan Twcan yn lle’r hen groesfan, gwella mannau croesi eraill, a gosod meinciau a raciau beiciau newydd ger y siopau lleol a’r ysgol. Cwblhawyd rhan gyntaf y llwybr wedi i’r cyfyngiadau Covid ddod i ben, a law yn llaw â’r gwaith mwy diweddar, mae dros 1km o lwybr Edlogan Way wedi cael ei uwchraddio.
Cafwyd gwaith ar hyd llwybr teithio llesol Cwmbran Drive y llynedd hefyd, ac roedd yn cynnwys gwella’r llwybr o gylchfan Grove Park i Glwb y Gweithwyr Pontnewydd (ger cylchfan Aldi). Roedd y gwaith yn cynnwys lledaenu’r llwybr troed cul ar hyd y brif ffordd i greu llwybr cerdded a beicio cyd-ddefnydd sy’n 3m o led ac yn rhychwantu 1.2km. Bydd Cam 2 y prosiect hwn yn rhychwantu’r rhan o Grove Park i Bevans Lane. Mae’r cam hwn yn cael ei ddylunio gan ddefnyddio’r nawdd sydd newydd gael ei ddyfarnu ar gyfer 2023-24.
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros Yr Amgylchedd: “Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ddyfarnu’r nawdd hwn i ni unwaith eto. Mae wir yn gwneud gwahaniaeth i’n rhwydweithiau teithio llesol ac yn ein helpu i gynllunio ar gyfer creu rhagor o lwybrau yn y dyfodol.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i leihau newid hinsawdd a gwella iechyd meddwl trigolion, a’u llesiant, ac wrth i ni allu cynnig mwy o lwybrau teithio llesol gobeithiwn y gall ein trigolion ddefnyddio llai o’r car a mynd allan i’r awyr iach.
“Rydyn ni’n gwybod nad yw pob un yn gallu teithio’n llesol drwy’r amser, ond mae torri ambell i siwrnai mewn car neu ar y bws yn gallu gwneud gwir wahaniaeth i’r amgylchedd.”
Rhagor o wybodaeth am deithio llesol yn Nhorfaen.
Mae teithio llesol yn cefnogi Cynllun Sirol y Cyngor trwy gysylltu pobl a chymunedau, yn gymdeithasol, yn ddigidol ac yn gorfforol. Rhagor o wybodaeth am y Cynllun Sirol.