Maethu Cymru Torfaen yn cefnogi cyfraith newydd Llywodraeth Cymru

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 10 Awst 2023
foster wales torfaen eliminate profit

Wrth i Lywodraeth Cymru symud ymlaen gyda chynlluniau i ddiddymu elw o’r gyfundrefn plant mewn gofal, mae Maethu Cymru Torfaen yn pwysleisio manteision maethu gydag awdurdod lleol.

Mae Cymru yn y broses o newid cyfan i’r system ar gyfer gwasanaethau plant.

Mae’r newidiadau a gynigiwyd yng nghytundeb cydweithio 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn rhoi blaenoriaeth i wasanaethau sydd wedi eu lleoli a’u cynllunio’n lleol ac yn atebol yn lleol hefyd.

Yn y cynlluniau yma mae yna ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant

sy’n derbyn gofal.’ Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan y sector gyhoeddus neu sefydliadau elusennol neu nid-er-elw.

Esboniodd un gofalwr maeth, Jo, a newidiodd o asiantaeth annibynnol at Faethu Cymru yn gynharach eleni, ei thaith - a’r gwahaniaeth y mae hi wedi gweld wrth faethu gyda’r awdurdod lleol:

Dywedodd Jo: “Yn fuan ar ôl i mi droi’n ddeugain oed, dechreuais faethu pobl ifanc yn eu harddegau trwy asiantaeth.  Roedd llawer o bobl ifanc yn dod o’r tu allan i’r ardal.  Roedd hyn yn eu rhoi o dan anfantais. Roedden nhw’n colli cysylltiad â’u ffrindiau, y mannau yr oedden nhw’n gyfarwydd â nhw, a’u gwreiddiau. 

“Nawr fy mod yn maethu gydag awdurdod lleol, mae’r bobl ifanc yn aros yn lleol.  Mae hyn yn golygu eu bod yn aros wrth eu gwreiddiau sy’n eu helpu i deimlo’n ddiogel ac mae’n fwy naturiol ar gyfer ymweliadau ac amser i’r teulu.”

O ganlyniad i’r newidiadau yma, mae Maethu Cymru Torfaen - sy’n rhan o’r rhwydwaith sy’n cynrychioli 22 awdurdod lleol Cymru - yn galw am fwy o bobl i fod yn ofalwyr maethu gyda’r awdurdod lleol ac yn annog y rheiny sy’n maethu ar hyn o bryd gydag asiantaeth sy’n gweithredu er elw i drosglwyddo at dîm eu hawdurdod lleol.

Yng Nghymru, mae 79% o blant sy’n cael gofal trwy asiantaethau maethu preifat yn cael eu gosod y tu allan i’w hardal leol, ac mae 6% yn cael eu symud o Gymru’n llwyr.

Yn y cyfamser, mae 84% o’r rheiny sy’n byw gyda gofalwyr maeth yr awdurdod lleol yn aros yn eu hardal leol, yn agos at gartref, ysgol teulu a ffrindiau.

Dywedodd Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg, y Cynghorydd Richard Clark: "Mae Cymru’n arwain y ffordd mewn gofal am ein pobl ifanc.  Mae’r ffordd yma o weithredu’n rhoi cyfle euraidd i ni sicrhau newid parhaus a chadarnhaol.

“Mae gofalu gyda’r awdurdod lleol yn cynnig cefnogaeth lawn a hyfforddiant, a byddwch yn ymuno â chymuned gofal maeth, gan helpu plant i aros yn nes at gartref.  Ffoniwch un o aelodau’n tîm i ofyn unrhyw gwestiynau ac ymunwch â’r cannoedd o deuluoedd sydd eisoes yn llunio dyfodol gwell i bobl ifanc yn Nhorfaen."

Am fwy o wybodaeth am faethu, a sut i fod yn ofalwr maeth gyda’r cyngor, ewch i: Eisoes yn Maethu? | Maethu Cymru Torfaen
Diwygiwyd Diwethaf: 10/08/2023 Nôl i’r Brig