Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 9 Awst 2023
Mae pum siop wedi eu dal yn gwerthu e-sigarennau i blant dan 18 oed yn ystod cyrch i daclo gwerthiant anghyfreithlon e-sigarennau.
Mewn ymdrech ar y cyd gan dîm Safonau Masnach Cyngor Torfaen a Heddlu Gwent, cafodd siopau yn Nhorfaen ymweliad ar ddydd Iau 3 Awst gan gadetiaid yr Heddlu 14-17 oed a geisiodd brynu e-sigarennau.
Cafwyd bod dwy o’r siopau’n gwerthu e-sigarennau anghyfreithlon, a arweiniodd at chwilio’r ddau adeilad, gan arwain at fod Swyddogion Safonau Masnach yn cipio dros 1,000 o e-sigarennau anghyfreithlon. Cipiwyd cerbyd oedd yn gysylltiedig ag un o’r siopau hefyd.
Cafwyd ail chwiliad yn un o’r siopau ar ddydd Sul 6 Awst, pan gipiwyd 100 o e-sigarennau anghyfreithlon pellach.
Mae hi yn erbyn y gyfraith gwerthu e-sigarennau, e-sigarennau tafladwy neu hylif yn cynnwys nicotin i unrhyw un o dan 18 oed. Hefyd, ni ddylai e-sigarennau tafladwy gynnwys mwy na 2ml o hylif neu tua 600 o ‘bwffiadau’.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Dros y pedair blynedd diwethaf, mae’n ymddangos bod tueddiad at weld mwy a mwy o bobl ifanc yn arbrofi gydag e-sigarennau gan eu bod yn ystyried eu bod yn llai peryglus i’w hiechyd na sigarennau.
“Serch hynny, mae nifer o gemegolion niweidiol mewn e-sigarennau anghyfreithlon a dyna pam maen nhw’n gallu bod yn hynod o beryglus.
“Hoffwn ddiolch i’n Swyddogion Safonau Masnach a Heddlu Gwent am eu hymdrechion wrth ganfod arferion masnachu anghyfreithlon ac am gymryd camau yn erbyn y rheiny sy’n torri’r gyfraith, gan beryglu defnyddwyr.
“Hoffwn annog unrhyw un sydd â phryderon ynglŷn â siopau’n gwerthu e-sigarennau’n anghyfreithlon i gysylltu â thîm Safonau Masnach y Cyngor>”
Mae ymchwiliadau’n parhau i’r busnesau a werthodd e-sigarennau i’r plant o dan 18 oed, a’r rheiny a gafwyd yn gwerthu e-sigarennau anghyfreithlon.
Mae gwerthiant e-sigarennau â nicotin i bobl ifanc, yn dwyn dirwy o hyd at £2,500 ar gyfer pob trosedd, a gall unrhyw un sy’n euog o werthu e-sigarennau anghyfreithlon wynebu dirwy a chyfnod o garchar o hyd at 2 flynedd.
Gallwch gysylltu â’r tîm Safonau Masnach trwy e-bost at trading.standards@torfaen.gov.uk neu dros y ffôn, 01495 762200. Caiff unrhyw wybodaeth a roddir ei thrin yn gyfrinachol.
Mae ymgymryd â phrawf-bryniannau nwyddau sydd dan gyfyngiad oedran yn cefnogi Amcan Llesiant 2 yng Nghynllun Sirol y Cyngor. Mae’r Cyngor am annog a hyrwyddo plant, pobl ifanc a theuluoedd fel y gallan nhw ffynnu. Darllenwch fwy am y Cynllun Sirol