Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 20 Hydref 2023
Mae cigydd o Gwmbrân wedi pledio'n euog i dair trosedd yn ymwneud â hylendid bwyd.
Yn ystod archwiliad hylendid bwyd arferol ar safle’r cigydd Douglas Willis, 2 Llanyravon Square, Cwmbrân ym mis Awst 2022, fe wnaeth Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor ddarganfod peiriant pacio yn cael ei ddefnyddio ar y safle i lapio cigoedd amrwd a bwydydd parod i’w bwyta.
Oherwydd y risg ddifrifol o groes-halogi a berir gan y defnydd o'r peiriant pacio, aeth y swyddogion ati ar unwaith i wahardd y busnes a rhoi’r gorau i’r arfer hwn er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Yn dilyn hynny, fe wnaeth y busnes gaffael peiriant pacio arall i lapio cig amrwd a chig parod i’w fwyta, ar wahân.
Yn ymddangos yn Llys Ynadon Cwmbrân ar 19 Hydref 2023, fe wnaeth Peter Willis, Rheolwr Gyfarwyddwr Douglas Willis Retail, bledio’n euog i fethu â sicrhau nad oedd y bwyd mewn perygl o gael ei halogi, methu i oruchwylio staff a methu i ddilyn mesurau rheoli diogelwch bwyd yn ddigonol. I gydnabod y pledion, gostyngodd y Llys y ddirwy am bob trosedd o £450 i £300. Gorchymynnwyd Mr Willis hefyd i dalu costau’r Cyngor, sef £1,713.33a gordal dioddefwr o £360, felly’n arwain at gyfanswm o £2,973.33.
Clywodd y llys fod cyfres o amgylchiadau yn ymwneud â defnyddio peiriant pacio i lapio bwydydd amrwd a bwydydd parod i'w bwyta wedi arwain at achosion o E coli O157 yn Ne Cymru yn 2005, a arweiniodd at fwy na 150 o bobl yn cael gwenwyn bwyd ac, yn anffodus, bu farw un plentyn.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Ystrydeb, dwi’n gwybod, ond mae’n fater o lwc nad oedd swyddogion wedi derbyn adroddiadau am unrhyw salwch difrifol gan bobl a oedd wedi bwyta cigoedd a gafodd eu lapio, o’r safle.
"Mae'r risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio un peiriant pacio i lapio bwydydd amrwd a bwydydd parod i’w bwyta, wedi eu cofnodi’n dda, ac mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyhoeddi canllawiau helaeth ar reoli croeshalogi, felly nid oes esgus yn yr achos hwn.
“Buaswn yn annog busnesau bwyd newydd neu rai sy'n bodoli eisoes sy'n gweithredu yn Nhorfaen, sydd ag ymholiadau ynghylch diogelwch bwyd i ofyn am gyngor gan wasanaeth Diogelu’r Cyhoedd y Cyngor."
I gael gwybod mwy am hylendid bwyd, cysylltwch â Chyswllt Busnes Torfaen ar 01633 648735 neu businessdirect@torfaen.gov.uk