Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 6 Medi 2023
Mae cyllyll ac alcohol wedi cael eu gwerthu i blant o dan 16 oed yn ystod cyrch prawf prynu yn Nhorfaen.
Aeth tîm Safonau Masnach y Cyngor a chadetiaid Heddlu Gwent i 15 siop yn ddiweddar, ble ymdrechwyd 19 o weithiau i brynu eitemau y cyfyngir eu gwerthiant yn ôl oedran. Gwerthwyd 10 eitem i’r cadetiaid, a oedd o dan 16 oed, mewn wyth siop, ac roedd gan yr eitemau yma i gyd gyfyngiad oedran o 18 oed.
Roedd dau gyllell i’r gegin, dau becyn o bedwar can o Thatcher’s Cider, pecyn o bedwar WKD, can o Malibu, ac e-sigarét ymhlith yr eitemau a werthwyd i’r cadetiaid.
Mae rhybuddion wedi eu rhoi i’r siopau a werthodd yr eitemau, a chawsant eu hatgoffa am y cyfreithiau sy’n bod a’u cyfrifoldebau i warchod plant rhag sylweddau a chynhyrchion niweidiol. Argymhellir bod y siopau’n gweithredu polisi Her 25, yn gwirio dogfennaeth adnabod ble mae hynny’n briodol ac yn cadw cofnod o achosion o wrthod gwerthu.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Hoffwn ddiolch i’n Swyddogion Safonau Masnach a Heddlu Gwent am eu hymdrechion wrth i ddarganfod siopau sy’n gwerthu eitemau i blant, a chynnig cyngor i’w cynorthwyo wrth gadw at y gyfraith.
“Yr hyn sy’n bryderus ar y gwerthiant yma yw bod gan y manwerthwyr yma bolisïau a gweithdrefnau’n ymwneud â gwerthu nwyddau o dan oedran, ond yn amlwg doedden nhw ddim yn cael eu gweithredu. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd gwiriadau annibynnol gan Swyddogion Safonau Masnach i warchod plant rhag perygl o niwed.
“Buaswn yn annog unrhyw un sydd â phryderon am unigolion neu fusnesau sy’n gwerthu eitemau a gyfyngir yn ôl oedran i gysylltu â thîm Safonau Masnach y Cyngor.”
Meddai’r Arolygydd Lee Stachow, Heddlu Gwent: "Mae cyfyngiadau ar oedrannau eitemau i’w gwerthu yno am reswm, er mwyn cadw plant yn ddiogel. Mae’n siomedig gweld bod rhai o’r busnesau yn methu yn eu dyletswyddau i gadw at y gyfraith, ac yn diystyru pa mor niweidiol y gall eu gweithredoedd fod.
"Mae ein cadetiaid yn chwarae rhan ganolog wrth ddal y manwerthwyr hynny sy’n torri’r gyfraith a byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid, gan gymryd rhan yn yr ymgyrchoedd hyn i sicrhau bod y busnesau hynny’n cael eu herlyn a’u dal i gyfrif."
Gall busnesau sy’n methu’n gyson o ran eu dyletswydd gyfreithiol i atal gwerthu o dan oedran gael eu herlyn a’u dirwyo. Ble mae yna drwydded alcohol, gall yr awdurdod lleol wneud cais hefyd iddi gael ei hadolygu, a allai arwain at fod y drwydded yn cael ei chyfyngu neu ei dileu.
Gellir cysylltu â’r tîm Safonau Masnach trwy e-bost at trading.standards@torfaen.gov.uk neu dros y ffôn ar 01495 762200. Bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir yn cael ei thrin yn gyfrinachol.
Mae profion prynu nwyddau dan gyfyngiad oedran gyda phartneriaid yn cefnogi Cynllun Sirol y Cyngor trwy hybu plant, pobl ifanc a theuluoedd, fel y gallan nhw ffynnu. Darllenwch fwy am y Cynllun Sirol.
Darllenwch am gyrch diweddar gyda gwerthu e-sigarennau’n anghyfreithlon