Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 28 Ebrill 2023
Mae grŵp cymorth newydd yn cynnig lle croesawgar a gweithgareddau i bobl sy’n byw gyda dementia a cholli’r cof, a’u gofalwyr.
Cysylltwyr Cymunedol Cyngor Torfaen sy’ rhedeg grŵp Forget Me Not Friday ac mae’n cwrdd bob dydd Gwener yn Llyfrgell Cwmbrân, o 1pm tan 3pm.
Cynlluniwyd y grŵp fel amgylchedd diogel a chefnogol, lle gall unigolion gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau rhad ac am ddim sy’n meddwl am bobl â dementia, tra bod eu gofalwyr yn cael sgwrs dros baned.
Mae Tina Scott o Gwmbrân yn gofalu am ei gŵr, Mike, a’r ddau’n mynychu’r grŵp. Meddai Tina: “Mae Mike wrth ei fodd yn cymryd rhan yn y sesiynau canu a chrefft a mwyafrif y gweithgareddau, ac maen nhw’n gwneud rhywbeth newydd bob tro. Mae’r tîm sy’n rhedeg y grŵp yn gymwynasgar, yn gefnogol ac yn hynod o garedig wrth bawb, ac wedi ymrwymo’n llwyr – allwn ni ddim diolch digon iddyn nhw “
Nod y sesiynau yw hyrwyddo rhyngweithio cymdeithasol, ysgogiad meddyliol a llesiant emosiynol y rheiny sy’n byw gyda’r salwch, a rhoi cefnogaeth a seibiant y mae mawr eu hangen i’w gofalwyr, mewn ardal ar wahân yn y llyfrgell.
Ddydd Gwener, 5 Mai, bydd y grŵp yn cynnal sesiwn Dementia Gorau Prydain i ddathlu Coroni’r Brenin. Fe fydd llond lle o weithgareddau gan gynnwys hel atgofion a chanu, a digon o de a chacennau!
“Rydym wrth ein bodd o fedru cynnig y grŵp cymorth yma gyda chydweithrediad Llyfrgell Cwmbrân pob wythnos”. meddai Jennifer Lloyd, aelod o dîm Cysylltwyr Cymunedol Torfaen. “Mae’n adnodd gwerthfawr i’r rheiny sy’n byw gyda dementia, yn ogystal â’u gofalwyr, ac yn gyfle iddyn nhw ddod at ei gilydd, rhannu profiadau a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n meddwl rhywbeth iddyn nhw, a hynny mewn amgylchedd cefnogol.
“Hoffwn annog y rheiny sydd wedi bod yn gofalu am rywun annwyl a oedd yn byw â dementia i ymuno â’r grŵp hefyd, oherwydd maen nhw’n gallu rhannu eu profiadau a chael cefnogaeth hefyd.”
Am ragor o wybodaeth am grŵp cymorth dementia Forget Me Not Friday, cysylltwch â Melanie Smith trwy anfon e-bost i cwmbran.library@torfaen.gov.uk neu ffonio 01633 647676.
Mae tîm Cysylltwyr Cymunedol Cyngor Torfaen wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth ac adnoddau er mwyn gwella ansawdd bywyd unigolion sy’n byw yn Nhorfaen.
Mae grŵp cymorth Forget Me Not Friday yn un o’r mentrau niferus y mae’r Cyngor yn eu cynnig i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ddementia a chefnogaeth i ddementia yn y gymuned.