Wedi ei bostio ar Dydd Llun 17 Ebrill 2023
Mae disgyblion ac athrawon o Ysgol Gynradd Padre Pio wedi ffilmio fideo sy’n dathlu rhai o’r rhesymau y maen nhw wrth eu bodd yn mynd i’r ysgol.
Fe fu pedwar ar ddeg o ddisgyblion, ynghyd ag aelodau o staff yr ysgol ym Mhont-y-pŵl yn ffilmio’r fideo ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol yn rhan o ymgyrch #DdimMewnColliMas Cyngor Torfaen, sy’n anelu at annog plant i fynd i’r ysgol yn rheolaidd.
Meddai Grace Jenkins, disgybl o Flwyddyn 5 a fu’n helpu creu’r fideo trwy gyfweld â phlant ac aelodau o staff: "Rydw i wrth fy modd yn dod i Padre Pio oherwydd mae fy athrawon yn gyfeillgar iawn".
Meddai Amelia, disgybl arall o Flwyddyn 5 a chwaraeodd ran hanfodol yn y broses o greu’r fideo hefyd: "Wrth ddod i’r ysgol rwy’n cael treulio llawer o amser gyda fy ffrindiau i gyd".
Gallwch wylio’r fideo yma.
Meddai Pennaeth Padre Pio, Mr Paul Welsh: " Mae presenoldeb rheolaidd yn hanfodol er mwyn galluogi plant i fanteisio ar y cyfleoedd addysgol a gynigir iddynt. Hebddo, ni fydd ymdrechion yr athrawon gorau yn yr ysgolion gorau yn dwyn ffrwyth a thanseilir y broses addysg.
"Mae presenoldeb yn hanfodol i barhad profiadau dysgu ac, yn sgil hynny, i ddysgu effeithiol. Cydnabyddir yn eang fod presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol yn ffactor allweddol wrth godi cyrhaeddiad plant a gwella’r cyfleoedd fydd ar gael iddynt yn y dyfodol."
Yn ystod pandemig Covid, gwelwyd cyfraddau presenoldeb ysgolion yn Nhorfaen yn gostwng ac erbyn hyn mae gan y fwrdeistref un o’r cyfraddau presenoldeb cyfartalog isaf yng Nghymru.
Ym mis Tachwedd, lansiodd Cyngor Torfaen ei ymgyrch #DdimMewnColliMas er mwyn dathlu buddion mynd i’r ysgol a lleihau nifer yr absenoldebau anawdurdodedig. Mae absenoldebau yn anawdurdodedig pan fydd disgybl yn absennol heb esboniad neu pan na fydd yr ysgol yn teimlo bod y rheswm a roddwyd yn rheswm derbyniol dros fod yn absennol o’r ysgol.
‘Mae Cyngor Torfaen wedi diweddaru ei bolisi presenoldeb sy’n atgyfnerthu ymrwymiad yr awdurdod i helpu ysgolion i leihau absenoldebau, yn arbennig absenoldebau heb awdurdod.
Os na fydd plentyn yn gallu mynd i’r ysgol, dylai rhieni neu ofalwyr gysylltu i ddweud eu bod yn absennol cyn gynted â phosibl. Dylai rhieni a gofalwyr sicrhau hefyd fod gan ysgolion eu manylion cyswllt cywir.
Os yw plentyn yn ei chael yn anodd mynd i’r ysgol yn rheolaidd, dylai rhieni a gofalwyr siarad â’u hysgol neu gysylltu â thîm Lles Addysg y Cyngor ar 01495 766965.
Am ragor o wybodaeth am bresenoldeb yn ysgolion Torfaen, rhowch glic ar y wefan.