Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 16 Medi 2022
Mae teyrngedau wedi bod yn llifo i arwr Clwb Rygbi Pont-y-pŵl, Eddie Butler, a fu farw ddoe, yn 65 oed.
Chwaraeodd Eddie dros Bont-y-pŵl trwy gydol y 1970au a'r 1980au dan Ray Prosser, yn ystod cyfnod lle'r oedd y clwb yn flaenllaw iawn ymysg rygbi'r clybiau yng Nghymru.
Bu Butler yn gapten ar yr ochr rhwng 1982 a 1985 ac aeth ymlaen i gael gyrfa ryngwladol hynod lwyddiannus, gan gynrychioli Cymru ar un ar bymtheg achlysur.
Ar ôl ymddeol o'r gamp yn 1985, cychwynnodd Eddie yn y byd darlledu a daeth yn un o brif sylwebwyr enwog y gamp gyda'r BBC. Roedd hefyd yn sylwebydd ar gyfer y Gemau Olympaidd a Gemau Invictus.
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen, a gyfarfu ag Eddie droeon: “Roedd yn ddrwg iawn gennyf glywed y newyddion am farwolaeth Eddie Butler. Roedd Eddie nid yn unig yn arwr yma ym Mhont-y-pŵl, roedd hefyd yn ŵr wirioneddol hoffus. Yn chwaraewr medrus tu hwnt a wrthbrofodd y myth na allai'r 'Poolers' mawr hynny chwarae'r gêm yn eang pan oedden nhw eisiau. Roedd hefyd yn ddarlledwr gwych ac i lawer ohonom, llais Cymru yn y Chwe Gwlad.
“Ond yn bennaf oll, roedd yn ddyn deallus, twymgalon, doniol a didwyll, rhywun a oedd bob amser yn cymryd yr amser i siarad pryd bynnag y cwrddais ag ef, ac un a gadwodd ei gariad at Bont-y-pŵl ar hyd ei oes. Byddaf yn teimlo'r golled yn fawr iawn. Estynnaf fy mharch a'm cydymdeimlad at ei deulu. Gorffwys mewn hedd Eddie.”
Mynegwyd geiriau caredig ar-lein hefyd gan Ben Jeffreys, Prif Swyddog Gweithredol Clwb Rygbi Pont-y-pŵl, meddai:
“Tristwch mawr i mi oedd clywed am farwolaeth Eddie Butler. Roedd Eddie yn arwr yn y byd rygbi yng Nghymru. Roedd hefyd yn hynod o garedig ac yn unigolyn gwych. Bydd pawb yng Nghlwb Rygbi Pont-y-pŵl yn teimlo'i golled yn fawr iawn.
“Estynnaf fy nghydymdeimlad i Sue gwraig Eddie, ei deulu a’i ffrindiau lu.”
Fe fydd y clwb yn parhau i dalu ei deyrnged i Eddie pan fyddan nhw'n croesawu Clwb Rygbi Castell-nedd ym Mharc Pont-y-pŵl yn ddiweddarach yn y mis.