Ymweliad Brenhinol â Chaerdydd

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 15 Medi 2022

Bydd Brenin Charles III yn ymweld â Chaerdydd yfory - dydd Gwener 16 Medi - ei ymweliad cyntaf â Chymru ers marwolaeth y Frenhines Elizabeth. 

Bydd cynulleidfa o wahoddedigion yn ymuno â'i Fawrhydi Y Brenin a'i Mawrhydi Y Frenhines Gydweddog mewn gwasanaeth boreol o Weddi a Myfyrdod i gofio am fywyd y Frenhines, yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Yn dilyn y gwasanaeth bydd Ei Fawrhydi y Brenin a'i Mawrhydi y Frenhines Gydweddog yn teithio i'r Senedd yn y prynhawn i dderbyn Cydymdeimladau'r Prif Weinidog. Wrth adael y Senedd, mae eu Mawrhydi yn gobeithio cyfarch rhai aelodau o'r cyhoedd, cyn ymadael am Gastell Caerdydd.

Bydd croeso i aelodau'r cyhoedd i dir Castell Caerdydd, a hynny ar sail y cyntaf i'r felin. Gofynnir i ymwelwyr osgoi dod â bagiau mawr nad ydynt yn hanfodol y bydd angen chwilio drwyddynt, oherwydd y gallai hyn arafu’u mynediad.

Mae croeso i bobl ymgasglu ar hyd y llwybr i weld y Parti Brenhinol yn cyrraedd Llandaf, Bae Caerdydd a'u gweld yn y Castell, ac mae'r cynlluniau yn eu lle i hwyluso hyn gymaint â phosib. Bydd ymweliad Eu Mawrhydi â Chaerdydd hefyd yn cael ei ddarlledu i bobl gartref.

Gall hygyrchedd a chyfleoedd i wylio a pharcio fod yn gyfyngedig, yn enwedig ar gyfer y digwyddiad yn Llandaf lle mae sawl ffordd ar gau a chyfyngiadau parcio eisoes wedi'u rhoi ar waith. Ychydig iawn o le sydd o amgylch yr Eglwys Gadeiriol ei hun. Bydd nifer o brif ffyrdd hefyd ar gau ar draws y ddinas ddydd Gwener er mwyn hwyluso'r ymweliad ac i gadw'r cyhoedd yn ddiogel.

Byddem yn cynghori unrhyw un sy'n awyddus i fynychu unrhyw un o'r tri lleoliad, i gynllunio ymlaen llaw ac i ystyried cerdded neu deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Credwn y bydd yn arbennig o anodd dod o hyd i unrhyw le i barcio yn Llandaf ar gyfer yr ymweliad.

Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda Llywodraeth Cymru a Heddlu'r De i reoli unrhyw fannau lle bydd tagfeydd, gyda nifer sylweddol o stiwardiaid wedi'u drafftio ochr yn ochr â swyddogion yr heddlu er mwyn helpu i gadw'r cyhoedd yn ddiogel.

Ein cyngor ni yw cynllunio ymlaen llaw, gwisgo am y tywydd, dod â digon o ddŵr, paratoi am gyfnodau hir o sefyll, disgwyl torfeydd a chadw llygad am y rhai o'ch cwmpas a'r rhai sydd gyda chi.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor Caerdydd.

Bydd angladd Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II yn cael ei gynnal am 11am ddydd Llun 19 Medi, ac mae'r achlysur wedi cael ei ddatgan yn ddiwrnod o wyliau cyhoeddus. I weld manylion newidiadau i wasanaeth Cyngor Torfaen, cliciwch yma. 

Diwygiwyd Diwethaf: 16/09/2022 Nôl i’r Brig