Ymestyn casgliadau gwastraff gardd

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 4 Hydref 2022

Bydd casgliadau gwastraff gardd pob pythefnos yn Nhorfaen yn cael eu hymestyn trwy Dachwedd, ar ôl iddyn nhw gael eu hatal am rai wythnosau’n gynharach yn y flwyddyn.

Bydd trigolion ar galendr casglu A a B yn cael eu casgliad olaf yn ystod yr wythnos yn cychwyn dydd Llun, 28 Tachwedd.

Bydd trigolion ar galendr casglu C a D yn cael eu casgliad olaf yn ystod yr wythnos yn cychwyn dydd Llun 5 Rhagfyr.

Dylai’r bin gwyrdd gael ei ddefnyddio dim ond ar gyfer gwastraff gardd gan gynnwys, gwair, dail, tociadau perthi, brigau bach, planhigion a blodau marw. Gall gael ei ddefnyddio hefyd i gael gwared ar wellt gwely anifeiliaid bach fel bochdewion a moch cwta.

Rhaid i faw cŵn a chathod gael ei roi yn y bin clawr porffor i’w waredu.

Ni ddylai gwastraff bwyd gael ei roi yn y bin gwyrdd ond dylid ei roi yn lle yn y cadi brown i’w ailgylchu.

Mae trigolion yn cael eu hatgoffa hefyd i beidio â defnyddio bagiau plastig  i storio’u gwastraff o’r ardd.

Am wybodaeth am gompostio gartref, ffoniwch 01495 766734, neu ewch i’r tudalennau sbwriel ac ailgylchu ar y we.

Diwygiwyd Diwethaf: 04/10/2022 Nôl i’r Brig