Egin Ysgol yn agor yn swyddogol

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 21 Hydref 2022
YGG montage

Ar Ddydd Iau, agorodd Jeremy Miles AS, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Addysg a’r Iaith Gymraeg ‘Bloc Gwladys’ yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl.

Ariannwyd y cyfleuster £8.8miliwn gan Lywodraeth Cymru trwy’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, ac mae’n cyfrannu at y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Derbyniodd y cyngor £8.1million i ymestyn ystod oedran safle Ysgol Gyfun Gwynllyw, gan gynyddu ystod oedran y disgyblion o 3 i 18.  Mae hyn wedi ei sicrhau trwy gael adran feithrin a chynradd i 210 o blant a agorodd ym Medi 2022. Enw’r ysgol estynedig newydd nawr yw Ysgol Gymraeg Gwynllyw.

Dywedodd Jeremy Miles AS, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Addysg a’r Iaith Gymraeg: “Mae’n wych gallu dod i Ysgol Gymraeg Gwynllyw a gweld effaith cadarnhaol ein rhaglen gyfalaf cyfrwng Cymraeg. Rydw i am weld mwy a mwy o blant yn cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn dod yn siaradwyr dwyieithog rhugl sy’n defnyddio’r iaith ym mhob agwedd o’u bywydau. Mae’r ysgol yma’n gwneud cyfraniad pwysig iawn i’n huchelgais o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.”

Dywedodd y Cyng. Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Addysg; “Mae’r ysgol wedi agor fel egin ysgol sy’n caniatáu mynediad i ddosbarthiadau meithrin a derbyn yn y flwyddyn gyntaf a bydd yn cynyddu nifer y disgyblion pob blwyddyn.  Mae’r adeilad newydd wedi ei ddylunio i ganiatáu dosbarthiadau ychwanegol yn y dyfodol hefyd os bydd cynnydd yn y galw ac mae hyn yn cefnogi ein huchelgais ar y cyd â Llywodraeth Cymru i gael mwy o blant yn derbyn gofal plant ac addysg yn Gymraeg, plant yn defnyddio Cymraeg yn eu bywydau pob dydd a’r iaith yn fyw yn ein cymunedau.”

Mae’r adeilad cynradd newydd yn cynnwys adeilad dau lawr gyda’r ystafelloedd dosbarth i gyd yn rhoi mynediad uniongyrchol i fannau chwarae allanol ar y llawr gwaelod, a golygfeydd dros Fôr Hafren o’r llawr cyntaf. Mae gan yr adeilad newydd ddyluniad â ‘stryd’ fewnol sydd rhwng ystafelloedd dosbarth grwpiau oedran tebyg ac yn gweithredu fel man agored i fynd iddo i chwarae yn ogystal ag i gael ei ddefnyddio ar gyfer addysgu a dysgu.

Mae mannau allanol wedi eu tirweddu’n cynnig amrywiaeth o leoedd i ddisgyblion chwarae, gan gynnwys offer chwarae pren a llethrau â glaswellt ar gyfer chwarae naturiol.  Mae ardal gemau aml-ddefnydd wedi ei ddarparu ar gyfer chwaraeon. Mae ardal cynefin dysgu wedi ei chynnwys yn y dirwedd i ddysgu disgyblion am eu hamgylchedd naturiol ac mae’n adnodd gwerthfawr ar gyfer addysgu a dysgu ar draws y cwricwlwm cyfan.

Yn ogystal â’r ysgol newydd, derbyniodd yr ysgol £715,000 ar gyfer cyfleuster gofal plant iaith Gymraeg annibynnol sy’n gysylltiedig â’r Adeilad Cynradd.  Bydd hyn yn darparu gofal plant i hyd at 40 o blant, 0-12 oed ac mae’n cynnwys 2 ystafell gofal plant.

Diwygiwyd Diwethaf: 26/06/2023 Nôl i’r Brig