Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 10 Hydref 2022
WMHD22

Mynychodd mwy na 200 o bobl ddigwyddiad lles yn Theatr y Congress i ddathlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd.

Cafodd lawer y cyfle i gael sesiwn dylino am ddim i leddfu straen, a rhoddodd eraill gynnig ar greu addurniadau clai gyda Head4Arts.

Hefyd, roedd trigolion yn gallu sgwrsio gyda chynrychiolwyr o fwy na 30 o sefydliadau, a oedd wrth law i gynnig cyngor a chymorth.

Mae’r diwrnod wedi cychwyn wythnos o weithgareddau lles ledled Torfaen, gan gynnwys:

  • Zumba a Pump and Tone, Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Woodlands Road, Cwmbrân
  • Sesiynau Campfa, Ysgol Dreftadaeth Blaenafon, High Street Fitness Pont-y-pŵl a Champfa Cold Barn Farm, Trefddyn
  • Hwb Lles (Celfyddydau a Chrefftau), Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Woodland Road, Cwmbrân
  • Hwb Gwaith Digidol, Neuadd y Mileniwm Garndiffaith
  • Men Talk (Grŵp Cymorth Lles, Yr Orsaf Bŵer, Cwmbrân
  • My Own Mind, Gweithdy Iechyd Meddwl, Canolfan Gymunedol Trefddyn a Phenygarn
  • Sing for Fun, Tŷ Glas Y Dorlan, Thornhill,

I gael rhestr lawn o amserau, dyddiadau a lleoliadau, ewch draw i dudalen Facebook Meithrin Cymunedau Cydnerth.

Meddai’r Cynghorydd David Daniels, Aelod Gweithredol ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Thai, a oedd yn y digwyddiad Dod â’r Gymuned at ei Gilydd:  "Roedd yn wych gweld cymaint i wynebau yn Theatr y Congress heddiw, oll yn dod at ei gilydd i nodi rhywbeth y byddwn oll yn ei brofi ar ryw ffurf drwy gydol ein bywydau.

“Mae’n ymddangos bod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o iechyd meddwl wedi cymryd cam mawr ei angen ymlaen mewn blynyddoedd diweddar. Yn enwedig gydag ymgyrchoedd proffil uchel a ffigurau cyhoeddus yn lleisio barn.

“Serch hynny – gydag amseroedd mor heriol ag y maent nawr – rydym yn gwybod y bydd llawer o bobl yn cael anhawster gyda’u iechyd meddwl. Gobeithio y bydd digwyddiadau fel un heddiw yn gwneud i fwy o bobl fod yn hyderus i rannu eu profiad o iechyd meddwl yn agored, a gofyn am help a chymorth pan fydd ei angen fwyaf arnynt." 

I gael rhagor o wybodaeth am gymorth lles, cysylltwch â Chysylltwyr Cymunedol Torfaen ar 01495 742397 neu ebostiwch communityconnectors@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 10/10/2022 Nôl i’r Brig