Dod â'r Gymuned ynghyd ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 7 Hydref 2022
mental Health DayTWITTER post CYM

Bydd chwarter oedolion y DU yn cael problemau gyda’u hiechyd meddwl ar ryw adeg yn eu bywydau.

Ar ddydd Llun, bydd tîm Cysylltwyr Cymunedol Cyngor Torfaen yn nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd trwy gynnal diwrnod lles am ddim yn Theatr Congress.

Bydd digwyddiad ‘Dod a’r Gymuned Ynghyd’ yn cynnig digon o weithgareddau i bobl gymryd rhan ynddynt, gan gynnwys sesiynau trin dwylo ac wynebau gyda Mac-Ed beauty, yn ogystal â sesiynau blasu celf a chrefft gyda Head4Arts.

Bydd côr byw a chyfle am wobrau hefyd, gyda basged bwyd a gwobrau eraill ar gael i’w hennill.

Bydd y digwyddiad yn cychwyn wythnos o weithgareddau llesiant, gan gynnwys sesiynau am ddim i’r gampfa, gellir dod o hyd i fanylion am hyn ar dudalen Facebook Digwyddiad Lles Cymunedol.

Bydd Growing Space, canolfan les leol a fydd yno ar y diwrnod, hefyd yn cynnal nifer o weithgareddau llesiant yn eu Caffi Croeso yn Happy Cwtch Café yng Nghanolfan Nant Brân, Cwmbrân.

Dywedodd arweinydd tîm gyda Growing Space, Keri Stott, “Mae’r digwyddiad yma’n rhoi cyfle i ni arddangos y doreth o wasanaethau lles sydd gyda ni i’w cynnig i’r cyhoedd. Yn gryno, rydym yn cefnogi pobl ag afiechyd meddwl, awtistiaeth neu  anabledd dysgu i fagu hyder, datblygu sgiliau cymdeithasol a gwella ansawdd bywyd.

“Rydym yn gwneud hyn trwy gynnig hyfforddiant therapiwtig, sgiliau galwedigaethol, creadigrwydd a phrofiad gwaith, a byddwn yn cynnig rhai o’r rhain yn ystod yr wythnos.  Rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r diwrnod ac yn gobeithio gweld llawer yno.”

Dywedodd yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd a Chymunedau, y Cynghorydd Fiona Cross: 

"Mae hwn yn ddigwyddiad hynod o bwysig i ddangos faint o gefnogaeth sydd ar gael i iechyd meddwl a lles ledled Torfaen. Mae’r stigma negyddol o gylch iechyd meddwl wedi lleihau yn ystod y blynyddoedd diweddar ond gall fod yn anodd o hyd gwybod ble i ddechrau weithiau.  Mae’r digwyddiad yma’n gyfle gwych i edrych am gyfleoedd posibl mewn ffordd anffurfiol a chael cyngor mewn lle diogel.

“Mae’r Cysylltwyr Cymunedol, y tîm sydd wedi trefnu’r digwyddiad yma, yn un rhan o’r gwasanaethau gwerthfawr yma. Maen nhw’n helpu’r rheiny sydd wedi eu hynysu neu sydd â rhwystrau at gael gwasanaethau. Maen nhw, fel mae’r enw’n awgrymu, yn gallu cysylltu defnyddwyr ag amrywiaeth o gyfleoedd cymunedol, a bydd nifer o’r rhain yn y digwyddiad yma.

“Hoffwn annog unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio’n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan afiechyd meddwl i alw heibio i’r digwyddiad yma a chael y gefnogaeth sydd ar gael.”

I wybod mwy am Gysylltwyr Cymunedol Torfaen a’r gwasanaethau iechyd meddwl sydd ar gael, ffoniwch 01495 742397 neu e-bostiwch communityconnectors@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 07/10/2022 Nôl i’r Brig