Lansio cronfa i gefnogi gofalwyr di-dâl

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 22 Tachwedd 2022
carers grant (1)

Gall gofalwyr di-dâl sy’n cael trafferth gyda chostau byw wneud cais am grant newydd o hyd at £500 i helpu gyda hanfodion.

Mae’r Cronfa Cefnogi Gofalwyr, sy’n cael ei redeg gan Gyngor Torfaen, yn cael ei lansio’r wythnos yma i nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr ddydd Iau.

Anelir y cynllun at helpu gofalwyr ifanc i brynu eitemau sy’n eu cefnogi yn eu rôl fel gofalwyr, fel nwyddau gwyn, talebau bwyd, dillad, offer TG, costau teithio, gwersi gyrru a chostau tiwtora.

Cyfyngir ceisiadau i un eitem hyd at y mwyafswm o £500 yr aelwyd ac ni ellir defnyddio’r grant i brynu eitemau i’r sawl sy’n derbyn gofal.

Gofalwr di-dâl yw rhywun sy’n rhoi gofal a chefnogaeth ddi-dâl i berthynas, ffrind neu gymydog sy’n anabl, yn sâl yn gorfforol neu’n feddyliol, neu sy’n cael eu heffeithio gan gamddefnydd sylweddau.

Nid yw’r rheiny sy’n derbyn lwfans gofalwyr yn cael eu heithrio o’r grant yma, a chaiff pob cais ei asesu ar sail unigol.

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau am y grant newydd neu gyngor ariannol neu les, bydd timau gofal cymdeithasol Cyngor Torfaen yn cynnal cyfres o sioeau teithiol i nodi

Diwrnod Hawliau Gofalwyr:

Cynhelir y sioeau rhwng 11am a 3pm:

  • Dydd Mercher, 23 Tachwedd ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl
  • Dydd Iau 24 Tachwedd yn Llyfrgell Cwmbrân a Meddygfa Blaenafon Medical, Middle Coed Cae Road

Dywedodd Aelod Gweithredol Torfaen dros Wasanaethau Oedolion a Thai, y Cynghorydd David Daniels, “Ni fyddai cymdeithas yn gweithio heb ofalwyr di-dâl, dyma’r rôl gwbl hanfodol sydd ganddyn nhw wrth hwyluso urddas, hapusrwydd a lles anwyliaid y maen nhw’n gofalu amdanyn nhw. Dyna pam y mae hi'r un mor hanfodol i wneud yr hyn allwn ni i’w cefnogi wrth iddyn nhw gyflawni’r rôl anhygoel yma o ddydd i ddydd.

“Ar hyn o bryd, mae pobl yn cael trafferth gyda chostau cynyddol; gyda chost biliau, hanfodion i’r cartref a thanwydd yn codi. Mae’n gwbl hanfodol ein bod ni’n gwneud pob dim a allwn i warchod gofalwyr di-dâl mewn unrhyw ffordd allwn ni, a dyna pam rwy’n falch ein bod ni’n gallu cynnig yr arian ychwanegol yma i geisio lleddfu trafferthion y maen nifer yn wynebu ar hyn o bryd.

“Felly, os ydych chi’n ofalwr di-dâl neu os oes angen asesiad arnoch chi i weld a ydych chi’n gymwys, cysylltwch â’n tîm cymorth ac fe wnawn ni’n gorau i’ch helpu i wneud cais am y grant.”

Mae’r grant newydd a’r sioeau teithiol wedi eu hariannu diolch i gyfraniad ariannol o £51,447 gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Bydd hefyd yn cefnogi gwybodaeth a chyngor i ofalwyr ifanc.

Am fwy o wybodaeth am y gefnogaeth a’r grantiau ychwanegol allai fod ar gael i ofalwyr di-dâl, ffoniwch 01495 762200, e-bostiwch CarerSupport@torfaen.gov.uk neu ewch at dudalennau gofalwyr ar wefan Cyngor Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 25/04/2023 Nôl i’r Brig