Cynllun Cerdyn Adnabod i Bobl Ifanc yn cael ei draed dano

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 24 Tachwedd 2022
Carers 2 Blur

Mae mwy na 200 o ofalwyr ifanc o bob rhan o Dorfaen wedi cofrestru i dderbyn cerdyn adnabod newydd sy’n helpu i’w gwneud yn fwy gweladwy a chael eu gwerthfawrogi yn eu cymunedau.

Mae Cerys Powell, 12, yn gofalu am ei mam sydd ag afiechyd gwael a phroblemau symudedd, drwy helpu i baratoi prydau bwyd, gwneud gwaith tŷ a rheoli’r feddyginiaeth ar bresgripsiwn sydd angen ar ei mam.

Cofrestrodd Cerys yn ddiweddar i dderbyn y cerdyn adnabod ac mae wedi ei ddefnyddio i gael mynediad i'w chanolfan hamdden leol.

Meddai: “Mae hwn yn gerdyn gwych! Mae wedi arbed arian i mi wrth ymaelodi â’r gampfa, ac mae’n gwneud i mi deimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi mwy am y gofal rwy’n ei rhoi i fy mam.”

Mae’r Cerdyn Adnabod i Ofalwyr Ifanc yn ffordd syml o helpu gweithwyr proffesiynol gan gynnwys meddygon, athrawon a fferyllwyr i adnabod gofalwyr ifanc a’u cynorthwyo mewn modd briodol.

Mae’r cerdyn hefyd yn rhoi mynediad am ddim i ofalwyr ifanc sydd am ddefnyddio’r pwll nofio, y gampfa a dosbarthiadau ffitrwydd gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen, a mynediad am ddim i Fferm Gymunedol Greenmeadow.

Mae gofalwyr ifanc hefyd yn cael cymorth gan Dîm Cymorth Gofalwyr Ifanc Cyngor Torfaen, sy’n trefnu digwyddiadau cymdeithasol ar draws y fwrdeistref.

I nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr yr wythnos hon, aeth y tîm â gofalwyr ifanc i Hollywood Bowl yng Nghwmbrân i fowlio a chael bwyd.

Cafodd gofalwyr dan ddeg oed a’u teuluoedd ddiwrnod llawn hwyl yng nghanolfan chwarae meddal dan do Go Play yn Stadiwm Cwmbrân, a pizza i ddilyn.

Dywedodd Declan Williams, 13 oed, a gymerodd ran yn y gweithgareddau yn gynharach yn yr wythnos, “Fe wnes i fwynhau’r bowlio’n fawr, mae’n rhywbeth nad wyf wedi’i wneud ers oesoedd, mwynheais siarad â gofalwyr ifanc eraill, er i fy chwaer fy nhrechu!

“Rwyf wedi cael cymaint o brofiadau ers cael fy nghynorthwyo gan y gwasanaeth gofalwyr. Rwyf wedi cymryd rhan mewn chwaraeon dŵr yng Nghronfa Ddŵr Llandegfedd yn ystod gwyliau’r haf, a Phrosiect Gwibgerti, lle dysgais sgiliau newydd a chymryd rhan mewn diwrnod ar y trac yn rasio yn erbyn gofalwyr ifanc eraill.

Rwyf hefyd wedi mynychu ysgol goginio a helpodd fi i ddatblygu fy hyder yn y gegin, gan fy ngalluogi i baratoi prydau gartref.”

Mae Diwrnod Hawliau Gofalwyr yn cael ei ddathlu ar 24 Tachwedd ac mae’n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth ynghylch hawliau gofalwyr, ac o ble y gallant gael cymorth a chefnogaeth.

Gall pobl ifanc sy’n gofalu, wneud cais am Gerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc ar wefan Cyngor Torfaen.

Am ragor o help, cyngor a chymorth ffoniwch 01495 762200 neu e-bostiwch Rebecca.elver@torfaen.gov.uk

 

Diwygiwyd Diwethaf: 24/11/2022 Nôl i’r Brig