Sioeau ffordd Costau Gofalu

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 17 Tachwedd 2022

Wythnos nesaf, mae Cyngor Torfaen yn cynnal cyfres o sioeau ffordd ledled y fwrdeistref i gefnogi gofalwyr di-dal sy’n pryderu am y cynnydd mewn costau byw. 

Bydd gofalwyr sy’n mynychu’r sioeau ffordd Costau Gofalu yn gallu cael cyngor ar fudd-daliadau a grantiau, ynghyd â gwybodaeth am sut i leihau costau ynni.

Byddant hefyd yn gallu cael cymorth ar gyfer biliau eraill yr aelwyd a chael gwybod sut allent wneud cais am docynnau banc bwyd.

Mae gofalwr di-dâl yn rhywun sydd yn gofalu am aelod o’r teulu, perthynas neu ffrind, am fod ganddynt anabledd corfforol neu iechyd meddwl, salwch neu broblem camddefnyddio sylweddau.

Mae’r sioeau ffordd yn cyd-daro â Diwrnod Hawliau Gofalwyr ar ddydd Iau 24 Tachwedd ac fe’u cynhelir rhwng 11am a 3pm ar:

  • Ddydd Mercher 23 Tachwedd ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl
  • Dydd Iau 24 Tachwedd yn Llyfrgell Cwmbrân a Phractis Meddygol Blaenafon, Coed Cae Road

Mae’r digwyddiadau yn rhad ac am ddim ac yn dilyn llwyddiant y sioeau ffordd costau byw yn ôl ym mis Mehefin, a welodd mwy na 40 o ofalwyr yn cael help a chyngor.

Mae gofalwyr ifanc hefyd yn gallu ymweld a chofrestru ar gyfer y cynllun ID Gofalwyr Ifanc.

Meddai’r Cynghorydd David Daniels, Aelod Gweithredol ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Thai: "Fel cyngor rydym yn ymwybodol iawn o effaith y cynnydd mewn costau byw ar bobl mewn sefyllfa fregus, fel gofalwyr di-dâl. 

"Mae effaith y cynnydd mewn biliau bwyd, tanwydd ac ynni yn debygol o gael effaith anghymesur ar bobl sy’n gofalu am anwyliaid hŷn, anabl neu sâl ac nid oes llawer o gyfle ganddynt i gynyddu eu hincwm. 

"Bydd y sioeau ffordd yn gadael i ofalwyr wybod am ba gymorth ariannol sydd ar gael, ynghyd â’r help ar gyfer lles emosiynol sydd ar gael."

Mae Gofalwyr Cymru yn dweud bod mwy na 370,000 o ofalwyr di-dal o bob oedran yn darparu gofal sydd werth rhyw £8.1 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn.

Lansiwyd siarter sy’n nodi hawliau cyfreithiol ac egwyddorion gofalwyr di-dal yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru ym mis Medi.

Mae’r hawliau hyn yr un fath ar gyfer holl ofalwyr di-dâl, boed yn oedolyn, yn berson ifanc neu’n blentyn. Mae’r siarter i’w weld ar wefan Llywodraeth Cymru.

I gael gwybodaeth am gymorth arall sydd ar gael i oedolion sy’n ofalwyr di-dâl yn Nhorfaen – neu am y sioeau ffordd – cysylltwch â louise.hook@torfaen.gov.uk neu dilynwch dudalen Facebook Oedolion sy’n Ofalwyr yn Nhorfaen.

I gael manylion y cymorth sydd ar gael i ofalwyr ifanc, cysylltwch â rebecca.elver@torfaen.gov.uk neu dilynwch dudalen Gofalwyr Ifanc Torfaen ar Facebook. 

Diwygiwyd Diwethaf: 17/11/2022 Nôl i’r Brig