Rhowch eich barn ar newidiadau i'r Ddeddf Galluedd Meddyliol

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 27 Mai 2022

Mae Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar newidiadau i’r Ddeddf Galluedd Meddyliol a sut byddan nhw’n cael eu gweithredu.

Mae’r Ddeddf wedi ei diwygio a bydd yn cynnwys newidiadau i’r ffordd y mae gofal neu driniaeth yn cael eu hawdurdodi ar gyfer pobl sy’n brin o’r galluedd i gydsynio, gan gynnwys y rheiny dros 16 oed a chleifion mewn lleoliadau iechyd neu gymunedol, gan gynnwys ysbytai, cartrefi gofal, neu yn eu cartrefi eu hunain.

Bydd y newidiadau’n effeithio’n benodol ar bobl sy’n bodloni’r meini prawf canlynol, yn ogystal â’r bobl sy’n eu cefnogi:

  • 16+
  • Yn disgwyl neu’n derbyn gofal neu driniaeth.
  • Sy’n brin o alluedd i gydsynio i’r gofal neu driniaeth hynny.
  • Ble mae’r gofal neu driniaeth hynny’n amddifadu rhyddid neu gallai fod yn gwneud hynny.

Enw’r drefn newydd fydd y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid ac mae Llywodraethau’r DU a Chymru’n ymgynghori ynglŷn â sut y byddant yn cael eu gweithredu.

Dywedodd Jason O'Brien Prif Swyddog Dros Dro Tai a Gofal Cymdeithasol: “Mae hwn yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth sy’n ceisio grymuso a diogelu rhai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau. Mae’n ceisio gosod eu hawliau dynol wrth galon penderfyniadau, felly mae o’r pwys mwyaf bod unrhyw un a allai gael eu heffeithio gan y newid yma, neu eu teuluoedd, yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad." 

Mae’r ymgynghoriad wedi cael ei gefnogi gan Glyn Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ddydd Iau 7 Gorffennaf, gyda dyddiad ar gyfer gweithredu i’w bennu ar ôl yr ymgynghoriad.

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cliciwch yma.  

Am ragor o wybodaeth am y Ddeddf Galluedd Meddyliol a’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid, ewch at ein gwefan. Fel arall, gallwch siarad â pherson proffesiynol mewn iechyd neu wasanaethau cymdeithasol.   

 

Diwygiwyd Diwethaf: 27/05/2022 Nôl i’r Brig