Taliad £500 i ofalwyr di-dâl

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 16 Mai 2022

Gall gofalwyr di-dâl, a oedd yn derbyn Lwfans Gofalwyr ar 31 Mawrth 2022, nawr wneud cais am daliad unwaith ac am byth o £500.

Mae’r taliad gan Lywodraeth Cymru yn cael ei wneud i gydnabod y pwysau ariannol ychwanegol y mae llawer o ofalwyr di-dâl wedi ei brofi yn ystod y pandemig, ac i helpu gyda rhai o’r costau ychwanegol sydd wedi eu hachosi. 

Mae’r taliadau yn targedu’r unigolion hynny sy’n gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos ac sydd ar incwm isel.

Ni fydd gennych hawl i gael y tâl:

  • Os oes gennych hawl sylfaenol i Lwfans Gofalwr ond nid ydych yn derbyn y taliad gan eich bod yn derbyn budd-dal arall ar yr un gyfradd neu gyfradd uwch, neu
  • Os ydych ond yn derbyn premiwm gofalwr o fewn budd-dal arall gyda phrawf moddion

Os ydych chi yn credu bod gennych hawl i’r cymorth hwn, gallwch wneud cais drwy wefan Cyngor Torfaen.

Bydd taliadau ar gyfer ceisiadau llwyddiannus yn cael eu gwneud o fis Mehefin hyd at ddiwedd mis 2022. Rhaid derbyn pob ffurflen gofrestru cyn 5pm ar 15 Gorffennaf 2022.

Bydd disgwyl i ymgeiswyr gofrestru gyda’r Cyngor lle maent yn byw, nid y Cyngor lle mae’r person maent yn gofalu amdanynt yn byw (os yw’n wahanol).

Diwygiwyd Diwethaf: 16/05/2022 Nôl i’r Brig