Galw holl blant creadigol!

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 12 Mai 2022
foster wales design

I ddathlu Pythefnos Gofal Maeth 2022, mae Cyngor Torfaen yn cynnal cystadleuaeth ar faethu gyda thema blodau haul i blant lleol gymryd rhan ynddi.

Gall unrhyw blentyn rhwng 4 ac 11 oed gyflwyno dyluniad a chael cyfle i ennill tocyn anrheg am ddod yn gyntaf, ail neu drydydd.

Mae’r blodau haul yn cynrychioli sut y gall gofalwyr maeth faethu plentyn sy’n derbyn gofal er mwyn iddyn nhw allu ffynnu a thyfu i’w potensial llawn.

Caiff plant fod mor greadigol ag y dymunent gyda phaent, creonau neu bensiliau – nid oes cyfyngiad ar y dyluniad.

Thema Pythefnos Gofal Maeth eleni yw #CymunedauMaethu, sy’n dathlu cryfder a gwytnwch cymunedau maethu a’r cyfan maent yn ei wneud i sicrhau bod plant yn cael gofal ac yn cael eu cefnogi i ffynnu. 

Mae’n gobeithio taflu goleuni ar y nifer o ffyrdd y mae pobl yn y gymuned faethu wedi cefnogi ei gilydd yn ystod y pandemig Covid-19 – ac i bwysleisio’r angen am fwy o ofalwyr maeth ymroddedig.

Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw dydd Sul 22ain Mai 2022, a rhaid anfon pob dyluniad i SS_CHFP@torfaen.gov.uk gan gynnwys enw ac oedran y plentyn, ynghyd â manylion cyswllt pwy ddylid cysylltu â nhw i’w hysbysu os ydynt yn fuddugol!

Pythefnos Gofal Maeth © yw ymgyrch fwyaf y DU i gynyddu ymwybyddiaeth am ofal maeth, a gaiff ei rhedeg gan yr elusen maethu arweiniol, The Fostering Network.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ddod yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru Torfaen

Diwygiwyd Diwethaf: 12/05/2022 Nôl i’r Brig