Blodau i ofalwyr maeth

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 9 Mai 2022
Fostering banner FACEBOOK6

Mae trigolion yn cael cais i blannu hadau blodau haul yn eu gerddi y gwanwyn yma i ddathlu gofalwyr maeth lleol, fel rhan o ymgyrch flynyddol Pythefnos Gofal Maeth.

Y thema eleni yw #CymunedauMaethu – yn dathlu cryfder a gwytnwch cymunedau maethu a’r holl maent yn ei wneud i sicrhau bod plant yn derbyn gofal diogel ac yn cael eu cynorthwyo i ffynnu. 

O ofalwyr maeth sydd wedi dangos ymroddiad dros lawer o flynyddoedd, i’r sawl sydd newydd gychwyn ar eu taith faethu, drwy blannu blodyn haul, mae’n talu teyrnged i’r gwaith maent yn ei wneud i feithrin, maethu a helpu i roi dyfodol gwell i blant.

Un gofalwr maeth yn Nhorfaen a benderfynodd agor ei chalon a’i chartref i ofalu am blant a phobl ifanc yw Caroline Treadgold. 

Meddai Caroline, sydd wedi bod yn maethu gyda Maethu Cymru Torfaen am fwy na chwe mlynedd:

“Rwy’n ofalwr maeth sengl, ond nid wyf byth yn teimlo’n unig gan fod gennyf system gymorth anferth o ‘nghwmpas. Mae’r gymuned faethu yn annog fy natblygiad fel gofalwr ac yn rhoi cymorth personol i mi ac unrhyw gyngor pan fyddaf ei angen.”

‘Rwyf wedi bod yn maethu am nifer o flynyddoedd nawr, ac yn ystod y cyfnod yma rwyf wedi derbyn cymaint o gymorth gan fy ngweithiwr cymdeithasol i, ynghyd â gweithiwr cymdeithasol fy mhlant, sydd bob amser ar ochr arall y ffôn neu a fydd yn picio draw i ‘ngweld os ydw i angen cyngor.’

Gall trigolion sydd eisiau cymryd rhan a phlannu blodau gasglu hadau blodau haul yn y mannau canlynol:

  • Tesco, Pont-y-pŵl – cyntedd – dydd Iau 12 Mai, rhwng 10am – 4pm.
  • Siopau Cwmbrân – dydd Mercher 18 Mai, rhwng 10am – 4pm.
  • Asda, Cwmbrân – dydd Gwener 20 Mai, rhwng 10am – 4pm.

Fel rhan o’r ymgyrch, bydd blodau yn cael eu hanfon at bob gofalwr maeth yn Nhorfaen, i ddiolch iddyn nhw am y gwaith y maent yn ei wneud drwy gydol y flwyddyn.

Mae disgyblion ysgolion cynradd ledled y fwrdeistref hefyd wedi cael her – i fod yn greadigol a dylunio darlun, poster neu lythyr gofal maeth gyda thema blodau haul.

Meddai rheolwr tîm Maethu Cymru Torfaen, Kirsty Cooke: “Rydym yn gobeithio y bydd ein hymgyrch yn ysbrydoli mwy o bobl leol i ddod yn ofalwyr maeth gyda’u hawdurdod lleol, fel bod plant yn cael aros yn lleol, yn agos at eu ffrindiau a’u teulu, ac aros yn eu hysgol lle bynnag y bo modd. Gall hyn helpu plant a’r bobl ifanc i gadw eu teimlad o hunaniaeth yn ystod cyfnod o bontio.

“Mae cyfoeth o wybodaeth yn ein timau maethu, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol ymroddedig sydd oll yn gweithio gyda’i gilydd a gyda theuluoedd lleol ac ysgolion lleol i adeiladu dyfodol gwell i’n plant.” 

Mae Penwythnos Gofal Maeth © yn rhedeg rhwng 9 a 22 Mai a dyma’r ymgyrch cynyddu ymwybyddiaeth fwyaf am ofal maeth yn y DU, sy’n cael ei rhedeg gan yr elusen maethu arweiniol, The Fostering Network.

Dywedodd Tanya Evans, Pennaeth Arweiniol Gwasanaethau Plant ar gyfer Maethu Cymru yng Ngwent: “Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf yn sicr wedi bod yn heriol, ond rydym wedi gweld cymaint o dosturi ac anhunanoldeb gan ein gofalwyr maeth ledled Gwent, sydd wedi agor eu drysau i blant a rhoi lle diogel iddyn nhw yn ystod y pandemig Covid-19 pan roedd gweddill y wlad yn ei chael yn anodd gweld eu teuluoedd eu hunain, hyd yn oed.

“Mae maethu wedi gorfod addasu i’r amgylchiadau anarferol y cawsom ein hunain ynddynt ac mae ein gofalwyr maeth wedi bod yn wych yn ateb yr her i ddarparu gofal a chymorth hynod i blant a theuluoedd a oedd eu hangen. Rydym eisiau dweud diolch yn fawr iawn a chyfleu ein gwerthfawrogiad o bopeth rydych wedi ei wneud.”

Mae Maethu Cymru Torfaen yn rhan o’r rhwydwaith Maethu Cymru cenedlaethol o 22 awdurdod lleol di-elw sy’n gyfrifol am blant sydd angen gofal.

I gael gwybod sut gallwch ddod yn ofalwr maeth, ewch i wefan Maethu Cymru Torfaen neu ffoniwch 01495 766669.

Diwygiwyd Diwethaf: 12/05/2022 Nôl i’r Brig