Y Cyngor yn buddsoddi mewn cerbydau a staff

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 10 Mawrth 2022
New recycling trucks

Ddydd Iau, bydd Cyngor Torfaen yn dechrau defnyddio pum cerbyd ailgylchu ail-law a brynwyd gan Gyngor Sir Powys i helpu i fynd i'r afael â fflyd sy'n heneiddio ac iddynt hanes o dorri i lawr. 

Fel mesur dros dro, mae'r cyngor yn gwario £40,000 ar y pum cerbyd i ddarparu cefnogaeth i'r fflyd bresennol a helpu i fynd i'r afael â'r cynnydd diweddar mewn casgliadau a fethwyd.

Mae £893,000 hefyd yn cael ei wario ar ddau gerbyd gwastraff trydan newydd, a fydd yn weithredol o fis Mai. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu 46% o'r cyllid ar gyfer y cerbydau trydan 26 tunnell a fydd yn cael eu defnyddio yn lle dau gerbyd disel presennol. Mae £2,793,864 arall yn cael ei wario ar fflyd newydd sbon o 19 o gerbydau ailgylchu, a fydd ar y ffyrdd y flwyddyn nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Rydym yn gwrando ar ein trigolion ac rydym yn ymwybodol iawn o'r problemau y mae rhai trigolion wedi'u hwynebu dros y misoedd diwethaf gyda chasgliadau gwastraff ac ailgylchu a fethwyd. Ni allaf ond ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y mae hyn wedi peri iddynt.

"Mae nifer o ffactorau wedi achosi’r problemau hyn, gan gynnwys fflyd o gerbydau sy’n heneiddio, absenoldeb ymysg staff, ynysu yn ystod y pandemig a heriau’r farchnad o ran recriwtio gyrwyr HGV a llwythwyr cerbydau.

“Fodd bynnag, rwy’n falch ein bod nid yn unig yn buddsoddi mewn cerbydau newydd yn y tymor byr yr wythnos hon, ond hefyd yn gwneud buddsoddiadau sylweddol i wella’r gwasanaeth yn y tymor hwy, ac yn buddsoddi mewn staff, gyda phedwar gyrrwr HGV newydd, y disgwylir iddynt ddechrau wythnos nesaf. Mae hyn yn ychwanegol at y staff gwastraff presennol rydym wedi bod yn eu hariannu a'u hyfforddi i gael eu trwyddedau HGV.

“Mae’r pecyn hwn o fesurau yn hanfodol o ran bodloni ein trigolion a bydd hefyd yn ein helpu i gyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru, sef 70 y cant erbyn 2024.”

Cyfradd ailgylchu Torfaen ar gyfer 2020-2021 oedd 62% a’r gyfradd gyfredol a rhagwelir ar gyfer eleni yw 63.12%.

Mae gwella a chynyddu cyfraddau ailgylchu a chyflwyno mwy o gerbydau trydan yn rhan o Gynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur ehangach Cyngor Torfaen i helpu Torfaen i ddod yn sero carbon net erbyn 2050.

Gallwch ddarganfod mwy am ailgylchu yn Nhorfaen a chofrestru i dderbyn ein cylchlythyrau Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu arbennig trwy ein gwefan. Gallwch hefyd ddilyn #Torri’rCarbonTorfaen ar gyfryngau cymdeithasol.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 10/03/2022 Nôl i’r Brig