Casgliadau gwastraff gardd i ailgychwyn

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 18 Mawrth 2022

Bydd casgliadau gwastraff gardd pythefnosol yn Nhorfaen yn ailgychwyn yr wythnos sy’n dechrau ar ddydd Llun 21 Mawrth.

Cynghorir trigolion i ddodi eu biniau gwyrdd ar gyfer eu casglu yn unol â’u calendr casglu.

Gellir gwirio dyddiadau casglu a chalendrau ailgylchu yma arlein.

Dylid ond defnyddio’r bin gwyrdd ar gyfer gwastraff gardd gan gynnwys gwair, dail, gwrychoedd wedi eu tocio, brigau bychain, planhigion marw a blodau. Gellir hefyd ei ddefnyddio ar gyfer deunydd gwely anifeiliaid anwes bach megis bochdew a moch cwta.

Rhaid rhoi baw cŵn a gwasarn cathod yn y bin caead piws ar gyfer ei waredu.

Ni ddylid rhoi gwastraff bwyd yn y bin gwyrdd, ond ei ddodi yn y cadi bwyd brown.

Atgoffir trigolion hefyd i beidio â defnyddio bagiau plastig i storio eu gwastraff gardd.

I gael gwybodaeth ar gompostio gartref, ffoniwch 01495 766734, neu ewch i’r tudalennau gwastraff ac ailgylchu ar y wefan.  

Diwygiwyd Diwethaf: 18/03/2022 Nôl i’r Brig