Diddordeb mewn gyrfa mewn gofal cymdeithasol?

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 11 Mawrth 2022
louise perkin

Gall cael swydd gyda thimau gofal cymdeithasol Cyngor Torfaen fod yn ddechrau gyrfa hir ac amrywiol.

Ymunodd Louise Perkin â’r cyngor gyntaf fel cynorthwyydd gofal yn 1996, ond ar ôl gweithio mewn nifer o rolau gwahanol a chael cefnogaeth i astudio ar gyfer gradd, mae hi nawr yn weithiwr cymdeithasol sy’n arbenigo mewn iechyd meddwl oedolion.

Mae hi nawr yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn gofal cymdeithasol i gofrestru gyda digwyddiad recriwtio rithwir Cyngor Torfaen yr wythnos nesaf. 

Dywedodd Louise, 48, o Gasnewydd: “Fy swydd gyntaf gyda Chyngor Torfaen oedd cynorthwyydd gofal, yn rhoi gofal personol i bobl ag anghenion cymhleth iddyn nhw gael mynychu gweithgareddau yn ystod y dydd a rhoi seibiant i’w teuluoedd.

“Rydw i bob amser wedi mwynhau helpu pob mewn angen, felly penderfynais fynd yn weithiwr cymorth gyda’r tîm iechyd meddwl, gan gefnogi pobl mewn argyfwng.  Gweithio ochr yn ochr â gweithwyr cymdeithasol wnaeth fy ysbrydoli i fod yn un.”

Aeth Louise ymlaen i gwblhau Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol a chafodd swydd fel gweithiwr cymdeithasol gyda Thîm Iechyd Meddwl Pobl Hŷn y Cyngor. 

Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, mae Louise bellach yn arweinydd tîm yn cefnogi timau Lles Iechyd Meddwl a Dwyrain Cwmbrân, ac yn cefnogi  gweithwyr cymdeithasol eraill.

Ychwanegodd Louise: “Mae Cyngor Torfaen wedi fy nghefnogi trwy roi cyfleoedd i fi i ddatblygu a dysgu.

“Mae eu buddsoddiad ynof i wedi rhoi cyfle rannu fy ngwybodaeth a sgiliau a gweithio mewn gyrfa rwy’n ei charu’n fawr.  Mae gan Dorfaen ddiwylliant o gefnogaeth a datblygiad rwy wedi bod yn falch i fod yn rhan ohono.”

Os hoffech chi ddysgu mwy am y rolau a chyfleoedd amrywiol sydd ar gael yn nhimau gofal cymdeithasol Cyngor Torfaen, cofrestrwch ar gyfer ein diwrnod recriwtio gofal cymdeithasol rithwir ar ddydd Mawrth 15 Mawrth i nodi Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd

Bydd y digwyddiad ar Facebook yn fyw, rhwng 4pm a 8pm, a bydd yn cynnwys gwybodaeth am rolau gwahanol, cyngor gyrfaoedd a’r swyddi gwag diweddaraf i gyd.

Diwygiwyd Diwethaf: 11/03/2022 Nôl i’r Brig