Cefnogaeth i blant â nam ar eu golwg

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 8 Mawrth 2022
vision impaired

Bydd cymorth i blant a phobl ifanc â nam ar eu golwg ledled Cymru i fyw a dysgu’n annibynnol yn gwella diolch i gwricwlwm newydd sy’n cael ei gyflwyno.

Mae plant a phobl ifanc â nam ar eu golwg yn dysgu amrywiaeth o sgiliau dysgu annibynnol, symudedd, sgiliau byw bob dydd a sgiliau cyfathrebu cymdeithasol yn rhan o'u datblygiad. 

Er bod y sgiliau hyn bob amser wedi cael eu dysgu i blant â nam ar y golwg yn Nhorfaen a gweddill De Ddwyrain Cymru, bydd y fframwaith newydd yn helpu i roi blaenoriaeth iddynt ar draws pob rhanbarth.

Mae SenCom yn darparu cefnogaeth i tua 360 o blant â nam ar eu golwg, a’u teuluoedd, a hynny o’u genedigaeth i 19 mlwydd oed. Bydd y fframwaith newydd  yn cael ei gyflwyno i lywio gwaith SenCom ymhob ysgol ledled rhanbarth De Ddwyrain Cymru.

Bydd digwyddiad lansio rhithiol i bobl sy’n gweithio yn y sector, a theuluoedd, yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 15 Mawrth.

Dywedodd Sarah Hughes, Pennaeth Nam ar y Golwg yn SenCom, y gwasanaeth rhanbarthol sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Torfaen, fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad: “Mae cyflwyno fframwaith cwricwlwm ar gyfer y DU gyfan, sy’n canolbwyntio ar y sgiliau y mae angen i'r rhai â nam ar eu golwg eu hennill trwy gydol eu plentyndod a'u haddysg, yn destun cyffro mawr i ni.

“Bydd gweithio tuag at ganlyniadau’r fframwaith hwn yn rhoi’r cyfle gorau i’n plant a’n pobl ifanc lwyddo ym mywyd pan fyddant yn oedolion.”

Gall unrhyw un sydd am ddysgu mwy am y cwricwlwm newydd gofrestru i fynychu’r digwyddiad ar-lein. Mae'r digwyddiad am ddim, a bydd yn dechrau am 12pm ar Microsoft Teams.

Gallwch gael gwybod mwy am y FfBNG a’r prosiect ehangach yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 08/03/2022 Nôl i’r Brig