Parti yn y Parc, Pont-y-pŵl

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 29 Mehefin 2022

Mae’r Parti yn y Parc yn dychwelyd i Bont-y-pŵl eleni, yn cynnwys ffair, perfformiadau byw a Titan the Robot o raglen Britain’s Got Talent.

Disgwylir i ryw 3,000 o bobl fwynhau’r digwyddiad ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 9, a fydd hefyd yn cynnwys gweithgareddau am ddim fel rhedeg bynji, trampolîn bynji, parth dymchwel dynol a phaentio wynebau.

Bydd yr hwyl yn dechrau am 11am ac yn mynd tan 5pm, gyda phlant a staff o Feithrinfa Osbourne Lodge yn cymryd rhan mewn gorymdaith ‘Enfys o Ddathliadau’ trwy’r parc o 11.45am ymlaen.

Bydd tua 60 o stondinau yn cynnig amrywiaeth o grefftau, bwyd a gwybodaeth cymorth.

Bydd yr adloniant yn cynnwys: 

  • Sioe Gŵn – gydag All Creatures Great and Small
  • Celf a chrefft am ddim gyda Gwasanaeth Chwarae Torfaen
  • Artistiaid balŵns a swigod, a chonsuriwr
  • Hwyl a gweithgareddau gyda Chartrefi Melin
  • Tenis a golff gyda Datblygiad Chwaraeon Torfaen
  • Gwasanaethau Hamdden ac Ieuenctid Torfaen – amrywiaeth o weithgareddau
  • Band Trends yn perfformio ar y Prif Lwyfan o 3pm – 4pm

Bydd parcio am ddim yng Nghanolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl, gyda pharcio ar gael hefyd ym meysydd parcio Trosnant Road, y Ganolfan Ddinesig, Riverside a Rosemary Lane. Bydd gwasanaethau arferol gyda’r bysiau.

Mae yna nifer o lwybrau teithio llesol sy’n arwain at Barc Pont-y-pŵl ac mae trigolion yn cael eu hannog i ddefnyddio’r rhain yn gyntaf er mwyn lleihau traffig trwy ganol y dref a’r ardaloedd cyfagos.

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Cymuned Pont-y-pŵl, y Cynghorydd Matt Ford: “Rydym yn falch dros ben o weld y Parti yn y Parc yn dychwelyd ar ôl dwy flynedd o ohirio. Hoffai’r Cyngor Cymuned ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ŵyl brysur iawn, yn llawn gweithgareddau i’r teulu cyfan”.

Mae’r Parti yn y Parc yn cael ei drefnu a’i reoli gan Gyngor Cymuned Pont-y-pŵl a’i gefnogi gan Mike Bendell, Swyddog Iechyd a Diogelwch.

Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ar www.pontypoolcc.gov.uk neu drwy dudalennau Facebook a Twitter @PontypoolComCouncil

Diwygiwyd Diwethaf: 29/06/2022 Nôl i’r Brig