Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 22 Mehefin 2022
Mae cerddoriaeth fyw, actau hud a lledrith, perfformiadau dawns a reidiau ffair am ddim yn rhai o’r pethau a fydd yn diddanu trigolion ac ymwelwyr ar Ddiwrnod Treftadaeth y Byd Blaenafon y penwythnos yma.
I ddathlu hanes y dref, a gafodd statws Treftadaeth y Byd UNESCO yn 2000, bydd diwrnod llawn hwyl ar ddydd Sadwrn 25 Mehefin.
Bydd y brif orymdaith yn cynnwys dathliad o’r siopau Fictoraidd yn Broad Street gydag eitemau gan ddisgyblion Ysgol Bryn Onnen ac Ysgol Wirfoddol a Reolir Dreftadaeth Blaenafon, ynghyd â grwpiau a sefydliadau lleol. Mae’n cychwyn am 1pm yn ardal y Parth Teuluol, a leolir yn y maes parcio top yn Broad Street, a bydd yn gorffen ar y prif lwyfan ar Market Street.
Bydd ardal gymunedol yn Bethlehem Court, lle bydd pobl yn gallu darganfod mwy am yr ardal leol. Bydd Capel Bethlehem hefyd ar agor ar gyfer te, coffi a chacennau ynghyd â chyfle arall i weld tapestri ‘Map Atgofion Broad Street’ a arddangoswyd yn gynharach eleni.
Bydd Canolfan Dreftadaeth y Byd Blaenafon yn gartref i Farchnad Diwrnod Treftadaeth gyda stondinau yn cynnig anrhegion a danteithion gan wneuthurwyr a chynhyrchwyr lleol.
Mae’r digwyddiad yn cychwyn am 11am, a bydd yn cael ei agor gan Nick Thomas-Symonds AS ac aelodau Llysgenhadon Ieuenctid Blaenafon, ac yn dod i ben am 4pm.
Trefnir Diwrnod Treftadaeth y Byd Blaenafon 2022 gan Dîm newydd Diwrnod Treftadaeth y Byd Blaenafon, grŵp o wirfoddolwyr sy’n anelu at greu digwyddiad blynyddol cynaliadwy i bawb ei fwynhau.
Meddai Caroline Clarke, Cadeirydd Tîm Diwrnod Treftadaeth y Byd Blaenafon: “Mae hwn yn gyfle da i’n cymuned wych ddod at ei gilydd a dathlu ein Safle Treftadaeth y Byd, a’r balchder rydym yn ei deimlo yn ei statws ac yn ein tref.
“Ar ôl y ddwy flynedd ddiwethaf a’r pandemig, rydym wrth ein boddau yn gallu dod â bywyd yn ôl i’r gymuned hon, gan alluogi i bobl y dref ac ymwelwyr ddathlu ei gwerth unigryw a hynod, nid yn unig i’r trigolion ond hefyd i’r byd”.
I gael gwybod y diweddaraf am y digwyddiad, dilynwch grŵp Facebook Diwrnod Treftadaeth y Byd yma https://www.facebook.com/groups/910385579701924
Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn ymgynghori ar gynlluniau adfywio hirdymor canol tref Blaenafon. I weld y cynlluniau ac i gymryd rhan, ewch i https://getinvolved.torfaen.gov.uk/blaenavon