Newid i nifer y galarwyr yn Amlosgfa Gwent: Datganiad FfLlCG Gwent

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 28 Ionawr 2022

Gyda chyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod Cymru wedi symud yn llawn i Lefel Rhybudd Sero, mae nifer y galarwyr all fynd i angladdau yng Nghapel Amlosgfa Gwent, Croesyceiliog, wedi cynyddu.

Gall hyd at 120o bobl fynd i Gapel Amlosgfa Gwent erbyn hyn.

Nid oes cyfyngiad ar nifer y galarwyr all fynd i angladd mewn mynwent.

Bydd trefnwyr angladdau yn gallu rhoi cyngor ar y niferoedd a ganiateir ar gyfer lleoliad angladdau neu wasanaethau coffa.

Gwneir pob penderfyniad ar nifer y galarwyr a ganiateir yn dilyn adolygiad o asesiadau risg a bydd yn ystyried nifer o ffactorau gan gynnwys y canllawiau a'r rheolau yn unol â lefelau rhybudd Llywodraeth Cymru.

Er gwaethaf llacio'r cyfyngiadau a symud i lefel rhybudd sero, mae achosion mewn cymunedau yn parhau'n uchel iawn ac mae COVID-19 yn dal i ledaenu'n lleol.  Felly, mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae o hyd wrth gymryd camau rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a'i ledaenu.

Cydnabyddir yn llawn mor anodd a gofidus y gall y cyfnod hwn fod, a bod cefnogaeth a chysur teulu a ffrindiau mor bwysig.  Fodd bynnag, rydym yn annog galarwyr i ystyried y risg wirioneddol o ledaenu ymhellach mewn achlysuron o'r fath a chyfyngu ar y risgiau hynny lle bynnag y bo modd.

Mae mesurau rhesymol yn cynnwys:

  • Dim ond unigolion sy’n cael eu gwahodd yn benodol gan drefnydd yr angladd all fynd i’r angladd fel galarwr o hyd, ynghyd â gofalwr unrhyw un sy’n mynychu.
  • Parhau i gadw at fesurau hylendid.  Mae golchi dwylo'n aml a defnyddio hylif diheintio dwylo yn bwysig o hyd, yn ogystal ag osgoi cyffwrdd eich trwyn a’ch ceg â dwylo heb eu golchi.
  • Lle bo'n bosibl, dylid cyfyngu ar ddod i gysylltiad corfforol agos.
  • Dylid cadw at ofyniad presennol Llywodraeth Cymru i hunanynysu os oes gennych brawf COVID-19 positif, ac eithrio am resymau tosturiol megis mynychu angladd aelod o'r teulu neu ffrind agos.
  • Cymerwch brawf llif ochrol cyn mynychu angladdau a defnyddiwch app COVID-19 y GIG i gofrestru i’r lleoliad.
  • Mae'n ofynnol i'r rhai sy'n mynychu angladd wisgo gorchudd wyneb drwy gydol y seremoni tra’u bod mewn man cyhoeddus dan do, megis capel yr amlosgfa, ac eithrio unigolion sydd ag esgus rhesymol, megis:
    - rhai nad ydynt yn gallu gwisgo gorchudd wyneb oherwydd salwch corfforol neu feddwl, neu oherwydd anabledd neu nam
    - maent yn hebrwng rhywun sy'n dibynnu ar ddarllen gwefusau i gyfathrebu.
  • Ni chaniateir canu cynulleidfaol.
  • Rhaid i bawb sy'n bresennol yng Nghapel Amlosgfa Gwent fod yn eistedd.

Nid ar chwarae bach y gwneir yr holl benderfyniadau ynghylch nifer y galarwyr a ganiateir mewn angladdau.  Mae parch i'r ymadawedig a thosturi at y rhai sydd wedi cael profedigaeth yn rhan bwysig o benderfyniadau, ond rhaid i ddiogelu iechyd a lles y cyhoedd, staff angladdau, claddu a’r Amlosgfa fod yn brif flaenoriaeth yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus parhaus hwn.

Diwygiwyd Diwethaf: 28/01/2022 Nôl i’r Brig