Wedi ei bostio ar Dydd Iau 25 Ionawr 2024
Mae trigolion yn cael eu hatgoffa i roi eu bagiau glas allan i’w casglu pob wythnos i helpu’r criwiau casglu ailgylchu.
Gall y bag glas gael ei ddefnyddio i ailgylchu blychau grawnfwyd, blychau wyau, cardiau cyfarch, cardbord gwrymiog, papur brown neu bapur pecynnu, bagiau papur, papur Kraft, cloriau/cefnau llyfrau nodiadau neu unrhyw becynnau eraill o gerdyn.
Mae ailgylchu eich cardbord pob wythnos yn gymorth anferth i’n criwiau i gwblhau eu rowndiau, ac mae’n lleihau’r hyn y mae’n rhaid i drigolion ei storio.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae ein criwiau’n sylwi bod nifer o drigolion yn dal i roi eu cardbord i’w gasglu pob pythefnos ar yr un diwrnod â’r biniau clawr porffor neu dim ond pan fydd eu bag yn llawn.
“O ganlyniad, mae’r cynwysyddion cardbord yn llenwi’n gyflym ac yn gorfod cael eu gwagio’n fwy aml. Mae hyn yn golygu y gall gymryd nifer o oriau’n fwy i griwiau orffen eu rownd nag a amcangyfrifwyd.
“Mae rhoi eich cardbord allan pob wythnos fel eich blwch du a’ch bin bwyd yn golygu bod y cynwysyddion storio ar ein cerbydau ailgylchu yn llenwi ar gyflymder tebyg i’w gilydd, ac mae angen i’r criwiau wagio’r cerbydau dim ond pan fo’r cynwysyddion i gyd yn llawn – nid dim ond pan fo’r cardbord yn llawn.
“Bydd lleihau nifer y teithiau gan ein cerbydau ailgylchu i ollwng yn helpu i sicrhau ein bod ni’n casglu popeth o ymyl y ffordd ar ddiwrnodau a glustnodir.”
Dysgwch fwy am beth all fynd i’r bag glas pob wythnos