19 o gerbydau ailgylchu newydd ar waith

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 23 Ionawr 2023

Mae fflyd ailgylchu newydd Cyngor Torfaen wrthi’n gweithio’n nawr fel rhan o fuddsoddiad o filiynau o bunnoedd yng ngwasanaeth gwastraff ac ailgylchu’r fwrdeistref.

Mae’r Cyngor wedi buddsoddi £2,793,864 19 mewn o gerbydau ailgylchu newydd, sy’n gallu casglu amrywiaeth ehangach o ddeunyddiau ailgylchu wrth ochr y ffordd.

Mae gan y cerbydau newydd gamerâu 360 gradd, a fydd yn helpu gydag ymholiadau cwsmeriaid a hyfforddi staff.

Yn y dyfodol bydd gan y cerbydau dechnoleg yn y caban a fydd yn danfon gwybodaeth at y criwiau, fel achlysuron pan fo casgliad ailgylchu wedi ei fethu neu gau ffyrdd ar frys a allai effeithio ar rowndiau casglu.

Dywedodd Rachel Jowitt, Cyfarwyddwr Strategol dros yr Economi a’r Amgylchedd: “Derbynion ni’r ddau gerbyd cyntaf yn Hydref y llynedd ac rydym yn falch iawn bod y 19 i gyd wrth eu gwaith bellach.  Hoffem ddiolch i drigolion am eu hamynedd wrth i ni aros i newid ein fflyd.  

“Bydd y lorïau newydd yn gwneud ein gwasanaeth yn fwy dibynadwy ac rydym ni hefyd yn buddsoddi mewn hyfforddiant a datblygiad staff i wella ansawdd ein gwasanaeth drwyddo draw.”

Mae staff yn cael hyfforddiant ychwanegol mewn meysydd fel arwain tîm ac iechyd a diogelwch a bydd arweinwyr tîm yn cael eu hamlygu er mwyn i drigolion allu cyfeirio cwestiynau atyn nhw. Bydd arweinwyr timau mewn gwisgoedd oren, a bydd aelodau’r timau mewn melyn.

Bydd gan y cerbydau newydd rôl allweddol wrth gynyddu faint o wastraff sy’n cael ei ailgylchu yn Nhorfaen.

Ar hyn o bryd mae 63 y cant o sbwriel yn Nhorfaen yn cael ei ailgylchu ond mae Llywodraeth Cymru  am i bob awdurdod lleol yng Nghymru ailgylchu 70 y cant o sbwriel erbyn 2025.  

Mae cynyddu cyfraddau ailgylchu yn un o’r ffyrdd mae Cyngor Torfaen wedi ymrwymo i daclo newid yn yr hinsawdd. Mae defnyddio deunyddiau wedi eu hailgylchu’n cynhyrchu llai o allyriadau carbon na chreu deunyddiau newydd fel metel neu blastig.   

Llynedd, diolch i arian gan Lywodraeth Cymru, buddsoddodd y Cyngor £893,000 mewn dwy lori gwastraff trydan newydd i helpu i leihau allyriadau carbon.

Dysgwch fwy am ddatganiad newid yn yr hinsawdd ac argyfwng natur y Cyngor.

Ewch i weld yr hyn allwch chi ei ailgylchu yn Nhorfaen ar ein gwefan

Cyhoeddwyd enwau enillwyr cystadleuaeth i enwi rhai o’r lorïau ailgylchu newydd. Gallwch ddarllen mwy yma

Diwygiwyd Diwethaf: 23/01/2023 Nôl i’r Brig