Adfywio'r Galon

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 17 Mehefin 2022
restart a heart

Ydych chi am ddysgu sgil newydd a allai arbed bywyd rhywun?

Mae Gwasanaeth Dysgu Cymunedol i Oedolion Torfaen yn cefnogi Ymgyrch Adfywio’r Galon Sefydliad y Galon, mewn gobaith o ddysgu dros 250 o bobl sut i adfywio calon rhywun sydd wedi dioddef trawiad ar y galon .

Mae gweithdai’n cael eu cynnig AM DDIM i bobl leol 16+ oed, yn ogystal â gweithleoedd, ysgolion, grwpiau a chlybiau chwaraeon. 

Bydd Diwrnod Adfywio’r Galon ar 16 Hydref, pan fydd miloedd o bobl ledled y DU, a llawer mwy dros y byd, yn dod ynghyd i gynyddu ymwybyddiaeth gyhoeddus o drawiadau ar y galon a nifer y bobl sydd wedi eu hyfforddi mewn CPR a’r defnydd o ddiffibrilwyr.

Dywedodd yr Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio, y Cynghorydd Joanne Gauden, “Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw camau gan bobl sy’n pasio heibio wrth helpu i arbed bywyd rhywun sy’n dioddef trawiad. Mae astudiaethau’n dangos bod defnyddio diffibrilydd o fewn tair munud ar ôl cwympo, ynghyd â dechrau CPR, gynyddu’r cyfle o oroesi yn fawr.

“Dyw dysgu CPR erioed wedi bod mor bwysig.  Y sgiliau CPR hanfodol a allai arbed bywyd, a’r hyder i weithredu’n gyflym, yw’r sgiliau syml y mae pawb yn gallu gwneud os ydyn nhw’n cymryd amser i’w dysgu.”

Bydd y gweithdai’n dechrau ar 21 Mehefin 2022. I weld y dyddiadau sydd ar gael, cysylltwch â Dysgu Cymunedol i Oedolion Torfaen ar 01633 647647.

Diwygiwyd Diwethaf: 17/06/2022 Nôl i’r Brig