Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 10 Mehefin 2022
Derbyniwyd dros 100 o geisiadau i enwi’r ddau gerbyd gwastraff trydan cyntaf yn y fwrdeistref, ac, ar ôl cryn dipyn o trafodaeth, mae’r enillwyr wedi cael eu dewis.
Bydd BERT a TREVOR ar strydoedd Torfaen cyn bo hir i gasglu sbwriel bin clawr porffor trigolion.
Crëwyd BERT (Best Electric Refuse Truck) gan ddisgybl Blwyddyn 2, Ruby Cording, o Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Ponthir, a TREVOR (Torfaen Refuse Electric Vehicle On Route) gan ddisgybl yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Henllys.
Bydd y plant a feddyliodd am yr enwau yn ennill bag o nwyddau, a bydd eu dosbarth yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn sesiwn ystafell ddosbarth rhyngweithiol.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr aelod gweithredol dros yr amgylchedd: “Roedd hon yn gymaint o hwyl fel cystadleuaeth, a chawsom ni cymaint o enwau gwych. Roedd yn anodd dewis y buddugwyr.
“Hoffwn i ddiolch i bawb a gymerodd ran, a fedra’ i ddim aros i weld BERT a TREVOR yn gyrru o gwmpas y fwrdeistref”.
Dywedodd Anna Britten, Pennaeth, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Ponthir : “Mae’r plant yn frwd iawn am yr amgylchedd ac roedden nhw wedi eu cyffroi’n fawr o glywed am y cerbydau sbwriel trydan newydd. Meddyliodd Ruby am enw sy’n disgrifio’r cerbyd yn berffaith, a chytunodd y plant i gyd y dylai fod yn un o’r ceisiadau o’n hysgol ni. Rydym ni i gyd yn falch fod y beirniaid wedi ei hoffi hefyd!
“Mae’r plant wedi bod yn dysgu am y gwaith mae’r criwiau sbwriel ac ailgylchu oherwydd bod un o’n disgyblion, Harri Williams, am ymuno â’r criw pan fydd yn hŷn. Mae e wedi bod yn rhannu ei wybodaeth a’i frwdfrydedd gyda’i ffrindiau.”
Mae buddsoddi mewn cerbydau gwastraff trydan yn un o’r nifer o ffyrdd sydd gan y cyngor o anelu at fod yn sero carbon net erbyn 2030, ac i’r fwrdeistref fod yn sero carbon net erbyn 2050.
Mae’r Cyngor hefyd yn buddsoddi mewn fflyd ailgylchu newydd y flwyddyn nesaf - cadwch eich llygaid ar agor i gael gweld y cerbydau newydd tua diwedd y flwyddyn.
Dysgwch fwy am ailgylchu a gwastraff yn Nhorfaen.
Dysgwch fwy am sut mae’r Cyngor yn ymateb i’n datganiad argyfwng newid yn yr hinsawdd a natur