Gofalu am Gostau Byw

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 9 Mehefin 2022
Roadshow montage

Mae oddeutu 40 o ofalwyr di-dâl wedi cael help a chyngor am y cynnydd mewn costau byw fel rhan o gyfres o sioeau ffordd Wythnos Gofalwyr. 

Hyd yma, mae’r tîm o Gyngor Torfaen wedi ymweld â Thŷ Glas y Dorlan yng Nghwmbrân, a Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl i gynnig cymorth i ofalwyr di-dâl gyda budd-daliadau a grantiau, gwybodaeth am docynnau bwyd a chardiau adnabod Gofalwyr Ifanc, ynghyd ag awgrymiadau ar arddio a thyfu eich bwyd eich hun. 

Mae’r sioeau ffordd hefyd wedi eu cefnogi gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a Hwb Tyfwyr Gwent, sydd wedi bod wrth law gyda chyngor ar sut i ostwng biliau ynni a manylion grwpiau cymorth lleol.

Stop olaf y sioeau ffordd fydd Practis Meddygol Blaenafon ddydd Gwener, rhwng 10am a 4pm.

Meddai Louise Hook, Gweithiwr Cymorth Gofalwyr Cyngor Torfaen: "Mae llawer o bobl wedi dod i siarad gyda ni gan eu bod yn poeni am eu harian. Yn gynharach heddiw, roeddwn yn siarad gydag un fenyw sy’n gofalu am ei gŵr ac mae’n poeni am eu biliau dŵr gan eu bod ar fesurydd, felly dywedais wrthi am dariff WaterSure Dŵr Cymru sy’n rhoi cap ar y gost.

"Mae llawer o gynlluniau a mentrau a all gynorthwyo gofalwyr ac rydym yn annod unrhyw un sy’n bryderus i ddod i’n sioe ddydd Gwener neu gysylltu gyda ni." 

Aeth John, o Bont-y-pŵl, sy’n gofalu am ei wraig, i sioe ffordd Tŷ Glas y Dorlan ar ddydd Llun.

Dywedodd: "Nid oeddwn yn gwbl ymwybodol o’r hyn sydd yna i helpu gyda fy rôl fel gofalwr. Mae digwyddiad heddiw wedi bod yn fuddiol iawn i mi. Gyda’r argyfwng costau byw parhaus, rwy’n gobeithio y bydd mwy o ddigwyddiadau fel hyn yn cael eu trefnu er mwyn paratoi a chynorthwyo gofalwyr fel fi yn well." 

Galwodd Wendy, o Gwmbrân, heibio hefyd i gael gwybodaeth gyffredinol, ac roedd yn tîm yn gallu helpu Carol, hefyd o Gwmbrân, gyda chwestiwn am ei lwfans gofalwr a’r dreth gyngor.

Meddai’r Cynghorydd David Daniels, Aelod Gweithredol ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Thai: "Fel cyngor, rydym yn ymwybodol iawn o effaith y cynnydd mewn costau byw ar bobl mewn sefyllfaoedd bregus, fel gofalwyr di-dâl. 

"Mae pobl sy’n gofalu am bobl oedrannus, anabl neu wael yn debygol o gael eu heffeithio fwy gan godiadau mewn prisiau bwyd, tanwydd ac ynni ac nid yw mor hawdd iddyn nhw gynyddu eu hincwm. 

"Y gobaith yw y bydd y sioeau ffordd yn helpu i hysbysu gofalwyr am y cymorth ariannol sydd ar gael, ynghyd â rhoi chyngor ar les."

Hyd yma, mae Cyngor Torfaen wedi derbyn 1500 o geisiadau am grant gofalwyr di-dâl Llywodraeth Cymru.

Gall unrhyw un a oedd yn derbyn Lwfans Gofalwyr ar 31 Mawrth 2022 wneud cais am daliad unwaith ac am byth o £500 drwy fynd i’n gwefan.  

I gael gwybodaeth am y tariff WaterSure, ewch i wefan Dŵr Cymru

I gael gwybodaeth am gymorth arall sydd ar gael i oedolion sy’n ofalwyr di-dâl yn Nhorfaen, cysylltwch â louise.hook@torfaen.gov.uk, neu dilynwch dudalen Facebook Oedolion-Ofalwyr Torfaen .

Am fanylion y cymorth sydd ar gael i ofalwyr ifanc, cysylltwch â rebecca.elver@torfaen.gov.uk, neu dilynwch Gofalwyr Ifanc Torfaen ar Facebook

Diwygiwyd Diwethaf: 09/06/2022 Nôl i’r Brig