Gardd Gofalwyr yn mynd yn wyllt

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 9 Mehefin 2022
carers garden

Gardd sydd wedi ei phlannu fel teyrnged i ofalwyr di-dâl yn Nhorfaen yw’r safle diweddaraf lle mae blodau gwyllt yn cael eu hannog i dyfu yn y fwrdeistref. 

Mae’r blodau brodorol, gan gynnwys bysedd y cŵn a gludlys coch wedi eu plannu yn yr ardd yn Llyn Cychod Cwmbrân fel rhan o Wythnos Gofalwyr eleni. 

Mae cynlluniau hefyd i osod mainc a gwaith celfyddyd a grëwyd gan Ofalwyr Ifanc Torfaen yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ac mae’r tîm gofal cymdeithasol oedolion hefyd yn gobeithio sefydlu Clwb Garddio i Ofalwyr.

Meddai Louise Hook, Gweithiwr Cymorth Gofalwyr Cyngor Torfaen: "Mae’r ardd yn gyfle gwych i ofalwyr a’u hanwyliaid fwynhau’r awyr agored, a helpu’r amgylchedd. 

"Rydym hefyd yn gobeithio y bydd gofalwyr sy’n hoffi garddio yn helpu i sefydlu clwb garddio i gyfarfod gofalwyr eraill a helpu i ofalu am yr ardal."

Mae rhyw 150 o safleoedd yn Nhorfaen lle mae gwair a blodau gwyllt yn cael tyfu, mewn parciau, ar ymylon ffyrdd a mannau gwyrdd eraill yn ystod y gwanwyn a’r haf, gyda thoriadau yn cael eu cymryd yn yr hydref er mwyn annog mwy o flodau gwyllt y tymor canlynol.  

Y nod yw cynyddu bioamrywiaeth, storio carbon a lleihau peryglon llifogydd.

Meddai Veronika Brannovic, o Bartneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Thorfaen, sydd wedi darparu’r blodau diolch i arian o gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi dewis defnyddio blodau gwyllt yn yr ardd gan eu bod yn gynaliadwy ynghyd â bod yn hardd. Mae’r ardd hon yn rhan o rwydwaith o ardaloedd blodau gwyllt yn Nhorfaen sy’n helpu i gefnogi bioamrywiaeth."  

Dywedodd y Cynghorydd David Daniels, Aelod Gweithredol ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Thai: "Ein thema ar gyfer Wythnos Gofalwyr eleni yw cynorthwyo gofalwyr di-dâl sy’n poeni am y cynnydd mewn costau byw.

"Ond mae hefyd yn bwysig bod gofalwyr yn cael cyfle i ofalu am eu lles corfforol ac emosiynol eu hunain. Rydym y gobeithio y bydd yr ardd hon, yn y pen draw, yn dod yn hwb i ofalwyr di-dâl ledled Torfaen i’w mwynhau gyda’u hanwyliaid."

Lleolir yr ardd flodau rhwng y llyn cychod a’r rheilffordd. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn sefydlu clwb garddio gysylltu gyda Louise Hook yn louise.hook@torfaen.gov.uk neu ar 01495 762200.

Gallwch ddysgu mwy am sut mae blodau gwyllt a dolydd yn helpu cymunedau i #MeithrinNaturTorfaen a #TorriCarbonTorfaen ar ein gwefan

Os ydych yn ofalwr di-dâl sy’n poeni am gostau byw, bydd ein Sioe Ffordd olaf fel rhan o Wythnos Gofalwyr ym Mhractis Meddygol Blaenafon, Middle Coed Cae Road, Blaenafon, dydd Gwener wythnos hon, rhwng 10am a 4pm.

Gall gofalwyr a oedd yn derbyn Lwfans Gofalwyr ar 31 Mawrth 2022 wneud cais am daliad unwaith ac am byth o £500 gan Lywodraeth Cymru. I wneud cais, ewch i’n gwefan.  

I gael gwybodaeth am gymorth arall i oedolion-ofalwyr di-dâl yn Nhorfaen, cysylltwch â louise.hook@torfaen.gov.uk, neu dilynwch dudalen Facebook Oedolion-Ofalwyr Torfaen.

I gael manylion am y cymorth sydd ar gael i ofalwyr ifanc, cysylltwch â rebecca.elver@torfaen.gov.uk, neu dilynwch dudalen Facebook Gofalwyr Ifanc Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 13/06/2022 Nôl i’r Brig