Cyrtiau i gael eu gwella

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 8 Gorffennaf 2022
Tennis courts

Mae cyrtiau tennis ym Mharc Pont-y-pŵl a Pharc Panteg yn yn Griffithstown i gael eu gwella, diolch i grant o £16,000 gan Raglen Chwaraeon Ffocws Tennis Datblygu Chwaraeon Torfaen.  

Mae’r gwaith ailwampio yn cynnwys glanhau a thrwsio wyneb y cyrtiau, gosod gatiau electronig newydd a llifoleuadau. 

Bydd chwaraewyr lleol pickleball hefyd yn elwa o’r gwaith uwchraddio, gydag ychwanegiad pump cwrt pickleball wedi eu marcio allan.

Mae Little Hitters Tennis hefyd yn gobeithio rhedeg sesiynau hyfforddi i chwaraewyr tennis iau, ynghyd â gwyliau bach a chystadlaethau yn y cyrtiau sy’n cael eu hadnewyddu.

Meddai Jane Jones o Little Hitters, sy’n rhedeg sesiynau tennis mewn ysgolion ledled Torfaen: “Mae gennym ŵyl dennis gydag ysgolion yn mynychu ar ddydd Mercher a dydd Iau wythnos nesaf a fydd, gobeithio, yn annog plant ysgol i ymuno â sesiynau eraill Little Hitters.

“Rydym wastad yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i redeg y sesiynau a chefnogi pobl leol i ddringo’r ysgol hyfforddi a bod yn swyddogion – dim ond angen iddyn nhw gysylltu gyda ni.”

I gael rhagor o wybodaeth ar sesiynau nawr ac yn y dyfodol, cliciwch yma.

Mae tîm Datblygu Chwaraeon Torfaen yn gweithio gyda Tennis Cymru i osod y system dechnoleg gatiau newydd ym Mharc Pont-y-pŵl, a fydd wedi ei chwblhau erbyn mis Hydref.  

Bydd defnyddwyr y cyrtiau yn gallu bwcio slot a chael cod i ddatgloi’r gât. Unwaith y bydd hyn wedi ei wneud, bydd y llifoleuadau yn troi ymlaen, ac yn diffodd ar ôl i’r sesiwn ddod i ben.

Dros y flwyddyn nesaf, bydd cyrtiau tennis Parc Cwmbrân hefyd yn cael eu hychwanegu i’r rhaglen ailwampio.

Dywedodd Holly Hinchey, Swyddog Datblygu Chwaraeon Torfaen: “Ar ôl nifer o brosiectau peilot i adnabod angen am dennis yn Nhorfaen, rydym yn llawn cyffro i gwblhau’r gwaith ailwampio a dod â thennis yn nes at y gymuned.

“Mae tennis yn wych ar gyfer datblygu cydsymud, ffitrwydd a hwyl i bob oedran a gallu am bris fforddiadwy.”

Diwygiwyd Diwethaf: 08/07/2022 Nôl i’r Brig