Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 1 Gorffennaf 2022
Heddiw, cafodd enillwyr ein cystadleuaeth i enwi cerbydau gwastraff cwbl drydanol newydd Torfaen, y cyfle i weld y tryciau am y tro cyntaf.
Dewiswyd Ruby o Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Ponthir, a aeth ati i enwi cerbyd yn Bert (Best Electric Recycling Truck) ochr yn ochr ag Oliver, o Eglwys Henllys yng Nghymru, a feddyliodd am yr enw Trevor (Torfaen Refuse Electric Vehicle On Route), a chawsant gyfle i weld y cerbydau newydd ar waith ac eistedd yn y cab gyda'u cyd-ddisgyblion.
Cawsant hefyd wers am ailgylchu, mewn ystafell ddosbarth lori Dennis, sydd wedi cael ei haddasu’n arbennig, a chyfle i gwrdd â masgot ailgylchu Cyngor Torfaen, Dan y Can, yn ystod y digwyddiad yn Stadiwm Cwmbrân.
Fel rhan o’r wobr, cafodd Ruby ac Oliver hefyd fodelau Lego o'r tryciau newydd, a drefnwyd gan dîm gwastraff ac ailgylchu'r cyngor.
Dywedodd Ruby, 7 : "Rwy'n gyffrous iawn i weld fy enw ar y lori."
Ychwanegodd Kate Horsfall, cynorthwyydd addysgu: "Mae'n hynod o gyffrous – braf fydd gweld Bert allan wrth ei waith.
Dywedodd Oliver, 11: "Cefais fy synnu'n fawr pan glywais fy mod wedi ennill y gystadleuaeth. Rwy'n edrych ymlaen at weld Trevor ar y strydoedd."
Dywedodd Rhiannon Llewellyn, Dirprwy Bennaeth: "Anrhydedd pur oedd cymryd rhan yn y gystadleuaeth a gweld yr holl blant yn cael cyfle, a oedd yn wych. Fe wnaeth Oliver feddwl am ddau enw, ac roedd y ddau yn rhagorol, ond, aeth y plant ati i bleidleisio, a Trevor oedd y mwyaf poblogaidd.
"Braff oedd cael rhywbeth yr oeddent i gyd yn gallu cymryd rhan ynddo, a byddant yn gallu ei weld yn eu cymuned."
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae wedi bod yn wych gweld y plant yn cyffroi am y cerbydau newydd a dysgu am bwysigrwydd lleihau ein gwastraff drwy ailgylchu mwy.
"Cefais fy syfrdanu wrth glywed faint yr oeddent eisoes yn ei wybod am yr hyn yr ydym yn ei ailgylchu yng Nghymru, ac rwy'n hyderus y byddant i gyd yn llysgenhadon gwych wrth i ni weithio tuag at fod yn garbon sero net yn y dyfodol."
Disgwylir i'r tryciau newydd, a fydd yn casglu biniau â chaead porffor, disgwylir iddynt fod ar y ffyrdd o fewn yr wythnosau nesaf.
Mae buddsoddi mewn cerbydau trydan i gasglu gwastraff yn un o ffyrdd niferus y cyngor i fynd ati i anelu at fod yn garbon sero net erbyn 2030, ac i'r fwrdeistref fod yn garbon sero net erbyn 2050.
Mae Cyngor Torfaen hefyd yn buddsoddi mewn fflyd newydd o 19 o gerbydau ailgylchu i helpu i gynyddu cyfraddau ailgylchu. Cadwch lygad am y manylion ynghylch sut y gallwch chi helpu i enwi'r tryciau newydd yr haf hwn.
Dysgwch mwy am ailgylchu a gwastraff yn Nhorfaen. Gallwch hefyd ddweud wrthym am y newidiadau yr ydych chi wedi eu gwneud - neu yr hoffech eu gwneud - i leihau gwastraff a chynyddu ailgylchu yn ein hymgynghoriad Torfaen Sero Net.
Dysgwch mwy am y ffordd y mae’r Cyngor yn ymateb i’n datganiad newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng natur.