Prydiau Cymunedol yn cynnig gwiriadau llesiant

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 20 Ionawr 2022
community meals

Mae Adran Gymunedol Cyngor Torfaen yn helpu trigolion hŷn i aros yn eu cartrefi trwy ddarparu gwiriadau lles gwerthfawr.

Yn ogystal â rhoi pryd poeth, mae’r gwasanaeth yn rhoi tawelwch meddwl i deuluoedd gan eu bod yn gwybod bod rhywun yn galw i mewn gyda’u hanwyliaid yn rheolaidd.

Dechreuodd Beryl Ray, 79, o Fryn Eithin, dderbyn prydiau ar ôl gadael yr ysbyty yn 2019. Doedd Beryl ddim yn gallu coginio iddi hi ei hun fel cyfeiriodd ei theulu hi i’r gwasanaeth prydiau cymunedol am dri diwrnod yr wythnos, sydd bellach wedi cynyddu i chwe diwrnod yr wythnos.

Dywedodd Beryl, "Mae Prydiau Cymunedol yn wasanaeth anhygoel ac mae’r staff sy’n ymweld yn barod iawn eu cymwynas.  Mae nifer o ddewisiadau ar y fwydlen ac rwy’n cael dewis pob dydd Mercher, mae’r cig oen yn arbennig o dda."

Mae Clive Hathaway yn cludo prydiau Beryl ati y rhan fwyaf o ddiwrnodau a dywedodd bod y gyrwyr i gyd y dod i adnabod eu cleientiaid ac yn mwynhau siarad â nhw.

“Rydym yn cael sgwrs gyflym i drafod y tywydd ac rwy’n gwneud yn siŵr ei bod hi’n teimlo’n iawn.

“Mae Mrs Ray yn byw ar ei phen ei hun ac rwy’n credu bod yr ymweliadau yn lleddfu’r pwysau ar y teulu o wybod bod unrhyw bryderon uniongyrchol ynglŷn â’i lles yn gallu cael eu trin yn gyflym a’u trosglwyddo at bobl broffesiynol.

“Rwy’n mwynhau amrywiaeth y diwrnod. Does dim dau ddiwrnod yr un peth ac mae gan bob un rwy’n ymweld â nhw stori wahanol."

Mae’r gyrwyr prydiau cymunedol  yn deall sut all unigrwydd gael effaith negyddol ar bobl, yn gorfforol ac yn emosiynol.

Os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon am rywun, byddan nhw’n cysylltu â’r teulu neu’r tîm gofal cymdeithasol.  Byddan nhw’n cysylltu â’r MT neu’r gwasanaethau brys os yw’r person yn teimlo’n sâl.

Mae’r gwasanaeth yn costio £5 am fwydlen dau gwrs ac mae wedi ei anelu at bobl sy’n byw yn eu cartref eu hunain ond nad sy’n gallu paratoi eu prydiau eu hunain. 

Mae dros 200 o drigolion wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth ac yn cael dewis o dderbyn pryd poeth ac eitemau ychwanegol i de mor aml ag y maen nhw’n dymuno, heb gytundeb parhaus.

Er bod nifer o’r rheiny sy’n derbyn y gwasanaeth yn bobl hŷn, mae’r gwasanaeth Prydiau Cymunedol ar gael i unrhyw un nad ydynt yn gallu paratoi pryd o fwyd oherwydd eu bod yn fregus, yn sâl neu’n anabl.

I wneud cais neu i ganfod mwy am y gwasanaeth Prydiau Cymunedol, ewch at wefan Torfaen yn www.torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01495 766373.

Diwygiwyd Diwethaf: 20/01/2022 Nôl i’r Brig