Pobl ifanc yn paratoi ar gyfer etholiadau lleol hanesyddol

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 9 Chwefror 2022

Bydd pobl ifanc yn cael cyfle i ddweud eu dweud o ran pwy fydd eu cynghorwyr nesaf yn yr etholiadau lleol eleni. 

Dyma’r tro cyntaf i bobl rhwng 16 a 18 oed allu pleidleisio yn yr etholiadau ym mis Mai, a fydd yn dewis cynghorwyr ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a chynghorau cymuned.

Yr wythnos hon, bydd fideo gan Gyngor Torfaen sy’n cynnwys pobl ifanc o bob rhan o’r fwrdeistref yn cael ei anfon i ysgolion i helpu i godi ymwybyddiaeth ynghylch yr etholiadau ddydd Iau 5 Mai.

Maen nhw hefyd wedi recordio negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys un gan Lola, 16 oed, o Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Alban, ym Mhont-y-pŵl, a ddywedodd:

“Mae gan bob un ohonom farn ar sut y gallwn lunio ein hardal leol.

"Cofrestrais i bleidleisio ar-lein pan oeddwn yn 15. Roedd yn gyflym, yn syml ac yn hawdd ac rwy'n edrych ymlaen i bleidleisio yn yr etholiadau nesaf ym mis Mai. Dywedwch eich barn drwy gofrestru i bleidleisio."

Ac Evan, 15, a ddywedodd: "Mae'n cymryd llai na phum munud i gofrestru i bleidleisio, gallwch ei wneud ar-lein ac mae ‘na lawer o fanteision, gan gynnwys gwella’ch sgôr credyd. Gall hyn helpu wrth brynu contract ffôn symudol neu gyllid car."   

Mae aelodau Fforwm Ieuenctid Torfaen hefyd yn cymryd rhan yn ymgyrch Senedd Ieuenctid y DU, ‘Gwneud Eich Marc’ y mis hwn i annog pobl ifanc 11-16 oed i fod yn rhan o’r broses ddemocrataidd.

Dywedodd Caroline Genever-Jones, rheolwr etholiadau Cyngor Torfaen: “Dyma’r tro cyntaf i bobl ifanc 16 ac 17 oed allu pleidleisio mewn etholiadau lleol.

"Y llynedd, cofrestrodd bron i hanner y rhai dros 16 oed yng Nghymru i bleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau’r Senedd. Rydym yn gobeithio y bydd hyd yn oed mwy o bobl ifanc yn cofrestru ac yn pleidleisio yn yr etholiadau hyn."

Yr wythnos hon, bydd Llythyrau Hysbysiad yn cael eu hanfon i bob cartref i sicrhau bod pawb sy'n gymwys ar y gofrestr.

Gall unrhyw un dros 14 oed gofrestru ar y gofrestr etholiadol yng Nghymru. Rhaid i chi fod wedi cofrestru erbyn dydd Iau 14 Ebrill i bleidleisio yn yr etholiadau. I gael gwybodaeth am sut i bleidleisio, ewch i'n gwefan.  

Mae amser o hyd i sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiad. I gofrestru a gofyn am becyn enwebu, e-bostiwch candidates@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01495 7622002. Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener 1 Ebrill. 

Gallwch wylio’r fideo yma. Dilynwch #EtholiadauLleolTorfaen2022 a #dweuddyddweud ar gyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr etholiadau.

Diwygiwyd Diwethaf: 09/02/2022 Nôl i’r Brig