Torfaen Cares

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 17 Chwefror 2022

Os ydych chi erioed wedi ffansïo gyrfa mewn gofal cymdeithasol, yna cofrestrwch ar gyfer diwrnod recriwtio gofal cymdeithasol rhithwir cyntaf erioed Cyngor Torfaen.

Yn ogystal â’r holl swyddi a chyfleoedd hyfforddi diweddaraf yn y sector, byddwch yn cael y cyfle i ofyn llawer o gwestiynau i’r tîm ar y diwrnod.

Cynhelir digwyddiad Torfaen Cares ddydd Mawrth 15 Mawrth ac mae’n cyd-fynd â Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd – diwrnod sy’n tynnu sylw at lwyddiannau gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol.

Bydd yn cychwyn am 4pm tan 8pm a gellir ei gyrchu trwy dudalen digwyddiadau Facebook, chwiliwch Torfaen Cares.

Dyma eich cyfle i ddarganfod mwy am yrfaoedd mewn gofal, boed hynny sut mae sifftiau’n gweithio, pa gymwysterau sydd eu hangen neu beth rydych chi’n ei wneud o ddydd i ddydd.

Yn ogystal, bydd digwyddiad galw heibio hefyd yn cael ei gynnal ar y diwrnod yn Llyfrgell Cwmbrân, o 10am tan 2pm, i unrhyw un sydd eisiau trafodaeth wyneb yn wyneb.

Mae Gofal Cymdeithasol yn digwydd mewn sawl ffurf, o weithwyr cymorth cartref rheng flaen i weithwyr cymdeithasol, ac ni fu erioed amser gwell i ymuno, gyda llawer o lwybrau gyrfa a chyfleoedd i ddatblygu ar gael.

Dywedodd y Cynghorydd David Daniels, Aelod Gweithredol Gofal Cymdeithasol a Thai Torfaen: “Dyma gyfle gwych i unrhyw un sydd wedi bod yn ystyried gyrfa mewn gofal, newid gyrfa, neu ddod i wybod mwy am y sector yn ei gyffredinol.

“Rydym yn chwilio am bobl angerddol sydd am wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau llawer o blant ac oedolion ar draws y fwrdeistref.”

Cofrestrwch eich diddordeb am y diwrnod drwy ymweld â digwyddiad Torfaen Cares ar Facebook, yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 17/02/2022 Nôl i’r Brig