Golau dros gancr yr aren

Wedi ei bostio ar Dydd Sul 6 Chwefror 2022
KCA22

Bydd y ganolfan ddinesig yn cael eu goleuo’n wyrdd yr wythnos nesaf i Gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Cancr yr Aren.

Cancr yr aren yw’r 13eg mwyaf cyffredin o blith achosion o farwolaeth o gancr yn y DU, gyda rhyw 4,600 o farwolaethau pob blwyddyn, sydd gyfystyr â 13 pob diwrnod.

Bwriad Wythnos Ymwybyddiaeth Cancr yr Aren yw codi ymwybyddiaeth o’r salwch trwy annog cleifion, teuluoedd, gofalwyr a ffrindiau i siarad amdano.

Gallwch ymuno â’r sgwrs trwy'r cyfryngau cymdeithasol trwy chwilio am yr hashnod #KCAW2022.

Gall trigolion gofrestru hefyd ar gyfer gweminar ‘Llawdriniaeth a’r broses adferiad’ am ddim ar 9 Chwefror am 6pm, a fydd yn cynnwys sesiwn Holi ac Ateb byw.

Dywedodd Aelod Gweithredol Torfaen dros Ofal Cymdeithasol a Thai, y Cynghorydd David Daniels : “Os allwn wneud pobl yn ymwybodol o’r symptomau, y ffyrdd o leihau’r tebygrwydd o gael cancr yr aren trwy fyw’n fwy iach, yna efallai gallan nhw osgoi cael clefyd na fyddan nhw efallai’n gwella ohono.”

Am ragor o wybodaeth am ymgyrch Ymwybyddiaeth Cancr yr Aren, ewch i www.kcuk.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 16/06/2023 Nôl i’r Brig