Angen gwirfoddolwyr i dreialu technoleg gynorthwyol

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 20 Rhagfyr 2022
HUGs - assistive tech

Mae tîm technoleg gynorthwyol Cyngor Torfaen yn chwilio am wirfoddolwyr i dreialu dyfais newydd sydd â'r nod o helpu i dawelu a chysuro pobl sy'n dioddef o ddementia.

Mae HUGs yn ddyfeisiau synhwyraidd sydd wedi'u cynllunio i'w cofleidio, ac maent eisoes yn cael eu defnyddio gan gleifion dementia mewn 11 lleoliad gofal ledled Torfaen, gan gynnwys Tŷ Glas y Dorlan a Thŷ Nant Ddu.

Erbyn hyn, mae gan y tîm 20 HUG i'w rhoi i wirfoddolwyr yn y gymuned fel rhan o brosiect peilot.

Mae gan ddyfeisiau HUG freichiau a choesau â phwysau, a chorff meddal sy'n efelychu calon yn curo, a gellir eu rhaglennu i chwarae hoff gerddoriaeth yr unigolyn.

Dywedodd y Cynghorydd David Daniels, Aelod Gweithredol Gofal Cymdeithasol a Thai, Cyngor Torfaen: “Yn ôl ymchwil, mae HUGs yn helpu i leddfu pryder, rhoi cysur ac annog sgwrsio.

“Dyma gyfle gwych i bobl weld a fydd y cynnyrch yn gweithio i’w hanwyliaid, a hynny heb orfod mynd i’r gost o brynu un yn y lle cyntaf.”

Yn ôl astudiaeth gan LAUGH Ltd, y cwmni sy’n gyfrifol am HUGs, fe welsant ei fod yn gwella ansawdd bywyd 87% o’r bobl a aeth ati i’w ddefnyddio am chwe mis.

Os ydych chi, neu rywun yr ydych yn ei gynorthwyo , yn dioddef o ddementia, a hoffech gymryd rhan yn y cynllun peilot, a fyddech cystal â chysylltu â’r Tîm Technoleg Gynorthwyol ar 01495 766214 neu anfonwch e-bost i your.call@torfaen.gov.uk

Gellir cymryd rhan yn y cynllun peilot heb unrhyw gostau o gwbl, a bydd adborth gan ddefnyddwyr yn helpu i lywio unrhyw benderfyniad a wneir ynghylch a ddylid defnyddio’r  offer hwn yn rhan o wasanaeth technoleg gynorthwyol TCBC yn y dyfodol.

Ariennir HUGs gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent (BPRhG),a dosberthir hwy ar sail y cyntaf i’r felin.

I gael mwy o wybodaeth am y ddyfais ewch i wefan Hug by Laugh.

Diwygiwyd Diwethaf: 21/12/2022 Nôl i’r Brig