Math o hud

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 15 Rhagfyr 2022
Ty Nant Ddu

Mae trigolion mewn lleoliadau gofal ledled Torfaen yn rhoi tro ar dechnoleg newydd a allai helpu i leihau nifer y cwympiadau ac ysgogI symudiad a rhyngweithio.

Mae dau ar bymtheg o leoliadau gofal wedi mabwysiadu’r ‘Tablau Hud’ rhyngweithiol – offer arbenigol ar gyfer pobl sy’n byw â dementia, anableddau dysgu, awtistiaeth, niwed i’r ymennydd ac anghenion gofal eraill.

Mae’r dechnoleg yn cynnwys cyfres o gemau, sy’n cael eu chwarae trwy uwchdaflunydd, ble mae golau yn ymateb i ddwylo, breichiau a gwrthrychau sy’n symud trwy’r golau, gan helpu i gynyddu ysgogiad corfforol, cymdeithasol a gwybyddol.

Mae Canolfan Gofal Dydd Tŷ Nant Ddu ym Mhont-y-pŵl yn un lleoliad sy’n defnyddio’r dechnoleg newydd. Mae Eva Taylor, 76, sy’n byw â dementia, yn mwynhau cymryd rhan yn y sesiynau pob wythnos. Dywedodd, ”Rwy’n hoffi’r llyn pysgod a’r popian swigod, mae’n fy helpu i ymlacio.”

Dywedodd Gareth Israel, 69, sy’n byw â Chlefyd Parkinson: “Rwy’n mwynhau chwarae’r gemau gyda fy ffrindiau. Rwy’n hoffi natur gystadleuol y gêm bêl-droed ac rwy’n hoffi gwneud posau hefyd.”

Yn ogystal â cheisio lleihau nifer y cwympiadau, mae’r dechnoleg hefyd yn ceisio gwella lles emosiynol, creu profiadau ar y cyd i anwyliaid a gwella patrymau cwsg ac effro.

Mae’r prosiect wedi ei wneud yn bosibl trwy arian gan Lywodraeth Cymru trwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent i gyflenwi ‘Rhaglen Hapusrwydd’ mewn partneriaeth â Gallu Cymdeithasol.

Mae’r Rhaglen Hapusrwydd yn wasanaeth sydd wedi ei ddylunio i roi cefnogaeth barhaus ac ymgysylltiad ar gyfer amrywiaeth o leoliadau gofal yng Ngwent, gan gynnwys Cartrefi Gofal, Canolfannau Gofal Dydd, Ysbytai ac eraill fel rhan o Raglen Technoleg Gynorthwyol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent. 

Dywedodd Aelod Gweithredol Torfaen dros Ofal Cymdeithasol a Thai, y Cynghorydd David Daniels: "Rydym yn parhau i weld technoleg gyffrous ac arloesol yn cael ei datblygu i wella lles pobl sy’n byw â phob math o gyflyrau. 

“Mae’r potensial i’r Rhaglen Hapusrwydd wella lles corfforol a meddyliol pobl ledled Torfaen yn addawol iawn.

“Ein nod yw helpu trigolion Torfaen i fyw mor hapus ac annibynnol â phosibl.  I gyflawni hyn, mae ein gwasanaeth Technoleg Gynorthwyol pob amser yn edrych am gynnyrch arloesol a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl Torfaen."

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan BPRh Gwent – Rhaglen Hapusrwydd.

Diwygiwyd Diwethaf: 15/12/2022 Nôl i’r Brig