Gofalwraig maeth yn derbyn gwobr

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 15 Rhagfyr 2022
Rosemary Roynon

Mae gofalwraig maeth wedi derbyn gwobr fawreddog gan y Rhwydwaith Maethu am ei chyfraniad at faethu.

Cafodd Rosey Roynon, 62, o Garndiffaith, y wobr Tystysgrif Rhagoriaeth ar ôl iddi gael ei henwebu gan Victoria Parry o Faethu Cymru Torfaen,

Mae Rosey wedi bod yn maethu ers 12 mlynedd ac mae hi wedi maethu tua 30 o blant a phobl ifanc. Mae’n cynnig cyfuniad o leoliadau tymor byr, tymor hir, seibiant ac argyfwng, yn ogystal â gofal dydd.

Dywedodd Rosey, sydd â 2 o blant a 3 o wyrion: “Pan glywais i fy mod i wedi cael fy enwebu, roedden i wedi fy synnu. Mae rhoi lle diogel i’r bobl yma aros a’u gwylio’n tyfu yn fraint ynddo’i hun, ond roedd cael fy enwebu’n arbennig iawn. 

“Ar ôl bod yn ofalwr maeth am ryw 12 mlynedd, roedd yn braf cael fy nghydnabod am rywbeth sy’n fwy na swydd. Daeth â gwên fawr a theimlad o lwyddiant i fy nghalon.”

Mae’r wobr yn cydnabod gofalwyr maeth sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i ofal maeth.

Cafodd y beirniaid weld sylwadau gan rai o’r bobl ifanc y mae Rosemary wedi eu maethu, fel: “Mae cael mam maeth fel chi yn un mewn miliwn. Rwy’n gwybod fy mod yn gallu dibynnu arnoch chi.  Rydych chi’n hardd, yn gryf, yn ofalgar ac yn gariadus ym mhob ffordd.”

Dywedodd person ifanc arall: “Mae Rosey wedi dod yn berson pwysig iawn yn fy mywyd, gan fy helpu pan oedd pethau’n anodd a gwneud i fi deimlo fy mod yn rhan o’r teulu.”

Os oes diddordeb gyda chi mewn dod yn ofalwr maeth cymeradwy Chyngor Torfaen, ffoniwch 01495 766669 neu ewch i wefan Maethu Cymru Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 15/12/2022 Nôl i’r Brig