Cronfa yn agor ar gyfer Hybiau Cynnes

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 2 Rhagfyr 2022
Warm space - panteg house

Yr wythnos hon, mae Cyngor Torfaen wedi derbyn grant Llywodraeth Cymru o £35,132 i gynorthwyo gyda chreu Hybiau Cynnes yn y fwrdeistref.

Bydd y grantiau Hybiau Cynnes yn cael eu gweinyddu gan Gyngor Torfaen a bydd cyllid yn cael ei ddyrannu i gefnogi Hybiau Cynnes sy’n bodoli eisoes neu rai newydd sy’n canolbwyntio ar ddarparu: 

  • lluniaeth sylfaenol, byrbrydau a phrydau bwyd os oes modd
  • cyfle i gymdeithasu
  • cyngor a chymorth ar faterion ariannol, iechyd a lles neu gynhwysiant digidol.
  • gweithgareddau megis ymarfer corff, celfyddydau a gweithgareddau diwylliannol.

Dywedodd Aelod Gweithredol Torfaen ar gyfer Cymunedau, y Cynghorydd Fiona Cross: “Dylai Hybiau Cynnes fod yn fannau lle mae trigolion yn cael amgylchedd croesawgar, diogel a chynnes y gall pawb fynd iddynt.

“Yn Nhorfaen, mae gennym eisoes nifer o leoliadau sy’n darparu cynhesrwydd ac amrywiol gymorth i drigolion. Rydym eisiau cefnogi’r hybiau hyn a byddwn hefyd yn edrych ar sefydlu rhai newydd lle mae galw nad yw’n cael ei ddiwallu yn barod.

“Bydd y cyngor yn edrych ar ymestyn gwaith gyda’r trydydd sector a phartneriaid cymunedol sydd mewn sefyllfa dda i ddeall anghenion lleol, a dyluniad a’r cynnig lleol. Efallai hefyd y bydd rôl i’r sector preifat yn lleol a fydd efallai eisiau cefnogi Hybiau.

“Lle bo modd, dylai Hybiau Cynnes gysylltu gyda gweithgareddau sy’n cynnwys pobl yn eu cymunedau, neu gyda phobl ifanc yn ystod gwyliau ysgol, er mwyn sicrhau dull integredig o ddelio gyda thlodi neu gyda chostau byw.”

Meddai Pennaeth Cymunedau Cyngor Torfaen, Bethan McPherson: “Byddwn yn gweithio gyda mudiadau sydd eisoes yn darparu cymorth i gymunedau, megis Cynghrair Wirfoddol Torfaen sy’n rhedeg y prosiect Agor Drysau sy’n gysylltiedig â grant Cysylltu Torfaen drwy gronfa Cymunedau Cysylltiedig Llywodraeth Cymru. Mae’r prosiect yn annog cyfleoedd i bobl gysylltu, meithrin cyfeillgarwch newydd a gwella teimladau o berthyn a chyfranogiad yn eu cymunedau drwy ddefnyddio eu hybiau lleol.”

Bydd grantiau bach o ryw £2000 ar gael i ymgeiswyr sy’n bodloni’r meini prawf. Bydd angen i ymgeiswyr gwblhau ffurflen gais fer arlein a dweud sut byddant yn rhedeg yr hwb cynnes am y cyfnod hyd at 31ain Mawrth 2023 a dangos beth maent yn bwriadu gwario’r grant arno, fel costau rhedeg, lluniaeth a chostau offer.

Ychwanegodd y Cynghorydd Fiona Cross: “Bydd y ffurflen gais arlein a bydd yn hawdd i’w chwblhau, ond rhaid i bob ymgeisydd sicrhau bod ein meini prawf allweddol yn cael eu hystyried. Rydym nawr eisiau i grwpiau a mudiadau gysylltu er mwyn i ni allu asesu’r galw a sicrhau bod gennym ledaeniad da o hybiau ledled y fwrdeistref.”

Bydd pob ymgeisydd hwb cynnes llwyddiannus yn cael eu cofrestru ar Cysylltu Torfaen a’u dangos ar y map rhyngweithiol er mwyn helpu i hyrwyddo yr hyn sydd gan bob hwb i’w gynnig.

Mae ffurflenni cais i’w cael yma, a bydd Cynghrair Wirfoddol Torfaen ar gael i gynorthwyo mudiadau gyda datblygu a chwblhau eu ceisiadau. 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Gareth Davies yn gareth.davies2@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 07971793348.

Diwygiwyd Diwethaf: 02/12/2022 Nôl i’r Brig