Ffilm yn dangos i bleidleiswyr sut mae gwneud

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 8 Ebrill 2022

Mae disgyblion o Ysgol Gorllewin Mynwy wedi cynhyrchu fideo i’r rheiny sy’n pleidleisio am y tro cyntaf ac am wneud hynny mewn gorsaf bleidleisio fel rhan o ymgyrch #EtholiadauLleolTorfaen2022 Cyngor Torfaen.

Mae Sara, disgybl ym mlwyddyn 10, yn cymryd rhan flaenllaw yn y ffilm, gan arwain gwylwyr trwy’r broses o bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio a rhannu rhai pethau i’w gwneud ac i’w hosgoi.

Dyma’r tro cyntaf i bobl ifanc 16 i 18 oed, yn ogystal â dinasyddion tramor, fedru pleidleisio mewn Etholiadau Cynghorau Lleol yng Nghymru, sy’n digwydd ddydd Iau, 5 Mai.

Dywedodd Sara, sy’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd mewn etholiadau yn y dyfodol: " Fe wnes i fwynhau ffilmio’r fideo.  Rwy’n gobeithio bydd yn ddefnyddiol i bobl ifanc ac y bydd yn eu hysbrydoli i gofrestru a phleidleisio pan ddaw’r amser”

Gallwch wylio’r fideo ‘sut i bleidleisio’ yma.

Gall unrhyw un dros 14 oed gofrestru i bleidleisio yng Nghymru, ond mae’n rhaid iddyn nhw fod yn 16 oed i bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad. 

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw dydd Iau 14 Ebrill a gallwch wneud hynny ar-lein trwy https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

Mae gan drigolion bedwar cyfle i bleidleisio yn yr etholiadau fis Mai:

Am ragor o wybodaeth am etholiadau lleol mis Mai, ewch i wefan Cyngor Torfaen.  

Dilynwch #EtholiadauLleolTorfaen2022 a #rhowcheichbarn trwy’r cyfryngau cymdeithasol ar y wybodaeth ddiweddaraf am yr etholiadau.

Diwygiwyd Diwethaf: 08/04/2022 Nôl i’r Brig