Seilwaith Gwyrdd

Seilwaith Gwyrdd yw’r “rhwydwaith o nodweddion naturiol a lled naturiol, mannau gwyrdd, afonydd a llynnoedd sy’n gwasgaru ar draws ac yn cysylltu lleoedd”. Mae ein seilwaith gwyrdd trefol yn cynnwys rhwydwaith o goedlannau, coed stryd, parciau, gerddi, ymylon ffyrdd, rhandiroedd, mynwentydd, mannau gwyrdd mwynderau a seilwaith glas megis afonydd a chamlesi, ac mae llawer o’r rhain yn hygyrch i’r cyhoedd. Mae seilwaith gwyrdd yng nghefn gwlad a’r ucheldiroedd o gwmpas ein trefi yn cynnwys rhwydwaith o fynyddoedd, gweundir a rhostir, glaswelltir lled naturiol a choedlannau, planhigfeydd coedwigaeth a chynefinoedd ffermio. Mae’r nodweddion hyn yn cael eu galw yn Asedau Seilwaith Gwyrdd ac mae ganddynt rôl i’w chwarae o ran cefnogi bioamrywiaeth a chyflenwi manteision iechyd, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol.

Mae seilwaith gwyrdd yn darparu “gwasanaethau cynnal bywyd” hanfodol ar gyfer cynnal lles pobl – o fwyd, tanwydd, aer a dŵr glân a rheoleiddio llifogydd, i fannau gwyrdd ar gyfer dianc, chwarae ac ymlacio. Gall Seilwaith Gwyrdd wedi ei gynllunio a’i reoli’n dda hefyd ein helpu i addasu i newid yn yr hinsawdd, gwyrdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth, cynorthwyo iechyd a lles ac annog datblygiad economaidd cynaliadwy.

Mae ein coed a’n coedlannau yn storio a dal carbon, darparu cysgod a lloches ynghyd â darparu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt. Mae nodweddion tirwedd llinellol megis coridorau afonydd a gwrychoedd yn arbennig o bwysig gan eu bod yn darparu coridorau ecolegol ar gyfer bywyd gwyllt. Mae cysylltu mannau a lleoedd gwyrdd drwy rwydwaith o lwybrau cerdded a beicio cynaliadwy yn annog ffordd o fyw iach a chyfleoedd i bobl fynd allan i natur.

Mae Rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd Torfaen yn helaeth ac yn gyffredinol wedi ei gysylltu’n dda, ac mae llawer ohono yn hygyrch i’r cyhoedd. Ar lefel leol, yn enwedig yn ac o amgylch trefi Torfaen, mae cyfleoedd lle-benodol i gryfhau ansawdd, cysylltedd a hygyrchedd y rhwydwaith seilwaith gwyrdd. Lle caiff ei gynnal a’i reoli mewn cyflwr iach, gall ein seilwaith gwyrdd a glas gynnig manteision lluosog o ran lliniaru heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Strategaeth Seilwaith Gwyrdd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent wedi comisiynu Strategaeth Seilwaith Gwyrdd sy’n darparu fframwaith strategol a rennir, neu ‘ddarlun mawr’ ar gyfer datblygu’r rhwydwaith cysylltiedig, swyddogaethol hwn o ardaloedd naturiol sy’n cefnogi anghenion lles poblogaethau lleol Torfaen yn y presennol ac i’r dyfodol (amcan 1 y Cynllun Lles). Mae hyn yn amlinellu egwyddorion, blaenoriaethau a chyfleoedd i gryfhau gwytnwch a chysylltedd Rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd Torfaen.

Gallwch lawr lwytho copi o'r Strategaeth Seilwaith Gwyrdd yma.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Henrietta Lucas, Uwch Swyddog Tirwedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, rhif ffôn: 01633 648045.

Strategaeth Goed Torfaen

Pam fo coed yn bwysig?

Mae coed yn darparu cymdeithas gydag amrywiaeth o wasanaethau buddiol, a elwir hefyd yn wasanaethau ecosystem. Mae’r buddiannau hyn yn cynnwys storio carbon, annog natur, lliniaru llifogydd neu, yn syml, darparu cefndir gwyrdd braf i’n tirweddau trefol a gwledig. Mae coed yn un o’r nodweddion mwyaf gweladwy yn ein seilwaith gwyrdd. Felly, ar adeg o argyfyngau hinsawdd a natur, mae rheolaeth, amddiffyniad a gwella coed a choedlannau yn ystyriaeth bwysig.

Coed yn Nhorfaen

Un o nodweddion Torfaen yw coed a choedlannau. Mae dyffryn serth yr afon yng ngogledd y fwrdeistref wedi ei fframio gan goedlan hynafol a chlystyrau o blanhigfeydd coniffer masnachol. I’r de, mae’n fwy o ardal o wrychoedd, coedlannau trefol, coed ar y stryd ac yn y parciau.

Mae adroddiad canopi coed trefol a gynhyrchwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ystyried mai Torfaen yw’r sir gyda’r canopi mwyaf yng Nghymru.

Pam fo angen Strategaeth Goed ar Dorfaen?

Mae coed yn chwarae rhan bwysig yn ein hamgylchedd ac mae’n rhaid i’r awdurdod lleol, boed drwy reoli coed ar dir cyhoeddus neu drwy’r system gynllunio, sicrhau bod penderfyniadau cysylltiedig â choed yn cael eu cymryd mewn ffordd bositif a chyson.

Strategaeth Goed Torfaen

Y Strategaeth Goed hon yw’r ddogfen gyntaf i gasglu ynghyd y cyfrifoldebau am goed ledled ardal yr awdurdod lleol. Mae’n nodi sut bydd risg i goed yn cael ei reoli ac yn awgrymu mesurau i amddiffyn a gwella coed nawr, ac i genedlaethau’r dyfodol.

Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau (dyletswydd Adran 6) – Y Gofyniad i Adrodd

Mae adroddiad Adran 6 yn nodi rhwymedigaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen o paratoi ran adroddiad tair blynedd ar gyfer 2020-22 yn ofynnol o dan adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a elwir fel arall yn ddyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau neu astudiaeth Adran 6 y cyrff cyhoeddus. Mae fformat yr adroddiad yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ac yn amlinellu cyfraniad yr awdurdod lleol at chwe amcan y Cynllun Gweithredu Adfer Natur cenedlaethol (NRAP) 2020.

Dyma'r ail adroddiad cydymffurfio tair blynedd ac mae'n cynnwys cyfraniadau gan ystod eang o swyddogion y Cyngor ar sut mae pob un o'u hadrannau yn cyfrannu tuag at ein Dyletswydd Adran 6 a'r hyn y maent yn ei wneud i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau ar draws y fwrdeistref.

Lawr lwythwch copi Adroddiad Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau 2020-2022 yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 22/05/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Senior Landscape Officer
Ffôn: 01633 648045
Ebost: Henrietta.lucas@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig