Apêl Siôn Corn Torfaen 2023
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Torfaen wedi lansio ei Apêl Siôn Corn blynyddol hirsefydlog
Yn rhedeg o 6 Tachwedd i 4 Rhagfyr 2023, mae'r apêl yn sicrhau y bydd pob plentyn ac oedolyn ifanc a gefnogir gan y gwasanaeth yn derbyn rhodd y Nadolig hwn.
Bydd trigolion sy’n dymuno cyfrannu yn derbyn oedran a rhyw'r plentyn, yn ogystal â chod unigryw y gellir ei atodi i’r anrheg. Rhaid peidio â lapio’r anrheg.
Gellir hefyd cyfrannu eitemau bwyd nad ydynt yn ddarfodus, i greu hamperi ar gyfer pobl ifanc 16 oed a hŷn, sy'n byw ar eu pennau’u hunain.
Sut i gyfrannu
Ffoniwch 01633 648100 i blant 0- 15 oed.
Ffoniwch 01633 647539 i bobl ifanc 16 – 21 oed.
Bydd llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau, 9am tan 4pm.
Gall anrhegion gael eu gadael yn y mannau dynodedig canlynol:
TYPSS The Studio, Ystâd Fusnes Oldbury, Cwmbrân NP44 3JU
- Dydd Mawrth: 9:00am – 5:00pm
Llyfrgell Cwmbrân, Tŷ Gwent, Gwent Square, NP44 1XQ
- Dydd Llun a Dydd Mawrth: 9:00am – 5:30pm
- Dydd Iau: 8:45am – 7:00pm
- Dydd Gwener: 8:45am – 6:00pm
- Dydd Sadwrn: 8:45am – 1:00pm
Swyddfeydd Rheoli Canolfan Cwmbrân, Y Dderbynfa, Llawr 1, South Walk (Rhwng Timpson’s a Clogau)
- Dydd Mawrth 1.30pm – 4.00pm
Y Ganolfan Ddinesig, Glantorvaen Road, Pont-y-pŵl, NP4 6YN
- Dydd Mawrth: 10:00am – 2:30pm
Partneriaeth Garnsychan, 55 Stanley Road, Garndiffaith, NP4 7LH
- Dydd Iau: 11:00am - 3:00pm
Circulate Blaenavon, Pont-y-pŵl, NP4 9RL
Co-star, Neuadd Gymunedol Y Pishyn Tair, Cwmbrân, NP44 4SX
- Dydd Llun: 10:00am – 2:00pm
Marchnad Pont-y-pŵl, Pont-y-pŵl, NP4 6JW
- Dydd Llun: 8:00am – 2:00pm
- Dydd Mawrth, Dydd Mercher, Dydd Iau a Dydd Gwener: 8:00am – 5:00pm
- Dydd Sadwrn: 8:00am – 4:00pm
Ers iddi gael ei lansio yn 2007, mae’r apêl wedi cefnogi miloedd o blant a phobl ifanc ledled Torfaen – y mae nifer ohonynt yn byw mewn tlodi neu nad oes ganddynt gyswllt â’u teuluoedd.
Diwygiwyd Diwethaf: 07/11/2023
Nôl i’r Brig